Mae Manchester United wedi gwahardd chwech o gefnogwyr am gam-drin asgellwr Tottenham, Son Heung-min.

Datgelodd y clwb hefyd bod camdriniaeth ar-lein wedi’i anelu at eu chwaraewyr wedi cynyddu 350% cyn boicot cyfryngau cymdeithasol y penwythnos hwn.

Cyhoeddodd Chelsea hefyd eu bod wedi gwahardd cefnogwr am ddegawd wedi iddo wneud sylwadau gwrth-Semitaidd.

Bydd cyrff a sefydliadau llywodraethu mwyaf pêl-droed, gan gynnwys y Gymdeithas Bêl-droed, yr Uwch Gynghrair ac EFL, yn gwrthod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn undod yn erbyn camdriniaeth ar-lein y penwythnos hwn.

Mae chwaraewyr Manchester United wedi bod yn dargedau cyson ac mae adolygiad y clwb ei hun o Twitter, Instagram a Facebook wedi canfod bod 3,300 o achosion o gam-drin wedi’u hanelu at eu chwaraewyr rhwng Mis Medi 2019 a mis Chwefror 2021.

Dywedodd y clwb fod 86% o’r achosion hynny’n hiliol, gydag 8% yn homoffobig neu’n drawsffobig.

“Mae Manchester United wedi cychwyn trafod sancsiynau yn erbyn chwe unigolyn yr honnir eu bod wedi torri rheolau’r clwb drwy gam-drin Son Heung-min ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn y gêm ar 11 Ebrill,” meddai’r clwb mewn datganiad.

“Yn anffodus, mae gwaharddiadau wedi’u rhoi, yn amodol ar apêl, i dri chefnogwr sydd â thocynnau tymor, dau aelod swyddogol ac un unigolyn ar restr aros am docyn tymor.

“Mae’r camau disgyblu hyn yn dangos ymrwymiad y clwb i’r frwydr yn erbyn camdriniaeth ymhob maes.”

Chelsea “am sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel”

Dywedodd Chelsea mewn datganiad: “Ar ôl i achosion llys ddod i ben ym mis Chwefror, cynhaliodd y Clwb ymchwiliad ein hunain i’r mater ac rydym wedi penderfynu gwahardd yr unigolyn o Glwb Pêl-droed Chelsea am gyfnod o 10 mlynedd.

“Mae pawb yn Chelsea yn falch o fod yn rhan o glwb amrywiol. Mae ein chwaraewyr, staff, cefnogwyr ac ymwelwyr â’r clwb yn dod o ystod eang o gefndiroedd, gan gynnwys y gymuned Iddewig, ac rydym am sicrhau bod pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu gwerthfawrogi a’u cynnwys.

“Ni fyddwn yn goddef unrhyw ymddygiad gan gefnogwyr sy’n bygwth y nod hwnnw.”

Y boicot yn tyfu

Ers iddo gael ei gyhoeddi, mae’r boicot wedi tyfu wrth i gyrff llywodraethu chwaraeon eraill, gyda noddwyr, partneriaid a darlledwyr yn ymuno.

Bydd corff llywodraethu Ewropeaidd UEFA yn cymryd rhan, yn ogystal â phêl-droed yr Alban, Rygbi Lloegr, Rygbi’r Alban, British Cycling, y Gynghrair Rygbi, Rasio Ceffylau Prydain, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, y Ffederasiwn Tenis Rhyngwladol ac eraill.

Er na fydd Fformiwla Un yn cymryd rhan yn dilyn trafodaethau, mae Syr Lewis Hamilton hefyd yn barod i ymuno â’r boicot ar benwythnos Grand Prix Portiwgal.

Mae Fformiwla Un wedi cyhoeddi datganiad yn cefnogi’r boicot, gan ddweud: “Rydym yn parhau i weithio gyda phob platfform a’n cynulleidfaoedd ein hunain i hyrwyddo parch a gwerthoedd cadarnhaol a rhoi terfyn ar hiliaeth.”