Bydd pleidiau gwleidyddol Cymru’n gwneud un ymdrech olaf i ennill pleidleisiau heddiw (dydd Mercher, Mai 5), wrth i’r ymgyrch etholiadol ddod i ben.
Mae’r arweinwyr yn ymgyrchu mewn etholaethau allweddol ar hyd a lled y wlad, gyda’r prif weinidog ac arweinydd Llafur Cymru Mark Drakeford ym Mro Morgannwg ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn canolbwyntio ar Lanelli.
Bydd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ymweld â Brycheiniog a Maesyfed, tra bod Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn y gogledd.
Fe fydd gorsafoedd pleidleisio yn agor am 7 o’r gloch bore fory (dydd Iau, Mai 6), ond fydd y cyfri ddim yn digwydd cyn dydd Gwener yn sgil y pandemig.
Y Ceidwadwyr
Yn Etholiad San Steffan yn 2019, cipiodd y Ceidwadwyr bump o seddi gan Lafur yn y gogledd – Ynys Môn, Dyffryn Clwyd, De Clwyd, Wrecsam a Delyn.
Y Blaid Lafur sy’n cynrychioli pob un o’r seddi hyn yn y Senedd, oni bai am Ynys Môn sydd yn nwylo Plaid Cymru ar hyn o bryd.
Fel arfer, mae gwleidyddion yn ymgyrchu mewn etholaethau maen nhw’n rhagweld fod modd eu hennill neu eu colli.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi addo gweithio gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan er mwyn “cyflwyno rhaglenni hanfodol megis porthladd rhydd, yr A55, a Metro Gogledd Cymru er mwyn gwella cysylltedd dros y rhanbarth”, a chysylltu’r gogledd i ogledd-orllewin Lloegr.
Ymhlith addewidion eraill y Ceidwadwyr Cymreig mae creu mwy o swyddi gwyrdd a sicrhau “strydoedd mwy diogel”.
Y Blaid Lafur
Heddiw, bydd Mark Drakeford yn ymweld â Bro Morgannwg, etholaeth sydd dan reolaeth y Blaid Lafur ar hyn o bryd, ond mae’r Ceidwadwyr yn gobeithio ei chipio.
Mae’r prif weinidog yn dweud y byddai pleidlais dros Lafur yn “bleidlais am adferiad fyddai’n rhoi swyddi gyntaf”.
Fel rhan o faniffesto’r Blaid Lafur, maen nhw’n addo hyfforddi 12,000 o staff y Gwasanaeth Iechyd, dileu’r defnydd o blastig untro ac adeiladu ysgol feddygaeth newydd yn y gogledd.
Maen nhw hefyd am sicrhau swyddi, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 oed.
“Dw i wedi cael cannoedd o sgyrsiau gyda phobol sydd wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n falch eu bod nhw’n byw yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn falch fod eu Llywodraeth Lafur Cymru wedi cymryd yr agwedd y gwnaeth hi tuag at y pandemig,” meddai.
Plaid Cymru
Bydd Adam Price yn ymgyrchu yn Llanelli, sedd sydd yn nwylo Llafur ar hyn o bryd.
Er hynny, bu Plaid Cymru’n cynrychioli’r etholaeth rhwng 2007 a 2011, a daeth y blaid o fewn 382 o bleidleisiau i’w hadennill hi yn etholiad y Senedd yn 2016.
Mae Adam Price yn dweud bod “pleidlais dros Blaid Cymru yn bleidlais dros obaith”, ac mae e’n addo cynnal refferendwm ar annibyniaeth o fewn pum mlynedd pe bai’n dod i rym.
“Rydyn ni’n gwrthod credu bod unrhyw beth israddol am Gymru sy’n golygu na allwn ni ffynnu fel cenhedloedd annibynnol eraill ledled y byd,” meddai.
Byddai Plaid Cymru hefyd yn creu 60,000 o swyddi gwyrdd, yn sicrhau bod ‘mwy na miliwn’ o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac yn gwneud yn siŵr fod pawb rhwng 16 a 24 mewn gwaith.
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Yn y cyfamser, bydd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, yn ymgyrchu yn Ystradgynlais ac Aberhonddu ym Mrycheiniog a Maesyfed.
Dyna’r unig etholaeth i’r Democratiaid Rhyddfrydol ei hennill yn 2016, ac mae Kirsty Williams wedi cynrychioli’r etholaeth ers etholiad cyntaf y Cynulliad ym 1999.
Bydd Kirsty Williams yn camu o’r neilltu eleni, ac mae arweinydd y blaid yn dweud y dylai pobol bleidleisio “dros y dyfodol, a phleidleisio dros roi adferiad yn gyntaf” yn ystod yr etholiad hwn.
Dywed fod gan ei phlaid “faniffesto uchelgeisiol fydd yn blaenoriaethu adferiad Cymru, a chaniatáu i ni symud ymlaen o’r pandemig”.
“Byddwn ni’n blaenoriaethu creu swyddi, adeiladu tai, cael bargen deg i’n ffermwyr, cynyddu gofal plant, a chreu gwasanaeth iechyd meddwl 24 awr. Dyma ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru,” meddai.