Mae ymchwil gan wyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn awgrymu bod criw llong y Mary Rose yn dod o bob cwr o’r byd.

Mae lle i gredu bod tri o’r criw yn dod o arfordir deheuol Ewrop, Iberia a Gogledd Affrica, a’r tebygolrwydd yw fod y pump arall yn dod o orllewin Prydain a bod un ohonyn nhw o dras Affricanaidd.

Y Mary Rose oedd llong Harri’r VIII am 34 o flynyddoedd, a chafodd y llong ei suddo yn ystod Brwydr y Solent yn 1545, gyda mwyafrif y criw yn cael eu lladd.

Mae’r gwyddonwyr yn cydweithio ag Ymddiriedolaeth y Mary Rose a Holiadur Daearegol Prydain i ddarganfod mwy am y criw.

Yn ôl Jessica Scorrer, un o awduron yr holiadur, mae’r ymchwil sydd ar y gweill yn dweud mwy am gyfraniad pobol o gefndiroedd ethnig amrywiol i fywyd bob dydd yn ystod oes y Tuduriaid ac i hanes y Llynges.

Ymchwil

Yn 1982, 437 o flynyddoedd ar ôl i’r llong suddo, cafwyd hyd i weddillion y Mary Rose a rhai henebion oedd arni ar y pryd, ac mae’r rhan fwyaf yn cael eu harddangos yn Iard Dociau Hanesyddol Portsmouth.

Aeth y gwyddonwyr ati i ymchwilio gan ddefnyddio dannedd i ddarganfod sut roedd y criw yn byw a pha fath o ddeiet oedd ganddyn nhw.

Roedden nhw’n gallu nodi cefndir ethnig a daearyddol y criw yn ôl olion bwyd a dŵr yn y dannedd.

“Rydyn ni wedi gallu ailadeiladu bywgraffiadau wyth o bobol o gyfnod y Tuduriaid yn llawer mwy manwl nag sydd fel arfer yn bosib,” meddai Dr Richard Madgwick o Brifysgol Caerdydd.

“Mae hyn wedi dangos eu gwreiddiau amrywiol ac wedi rhoi’r dystiolaeth gyntaf i ni ar gyfer morwyr o dras Affricanaidd yn llynges Harri’r VIII.”

Mae’r wyth morwr wedi’u cynnwys mewn arddangosfa dros dro, ‘The Many Faces of Tudor England’, yn Amgueddfa’r Mary Rose yn Portsmouth.

Yn ôl Dr Alexzandra Hildred o Ymddiriedolaeth y Mary Rose, “doedden ni ddim yn disgwyl i’r amrywiaeth yma fod mor gyfoethog”.

“Mae’r astudiaeth hon yn trawsnewid ein syniadau tybiedig o ran cyfansoddiad llynges frodorol Lloegr.”