Ar noswyl etholiadau’r Senedd, mae Adam Price yn dadlau bod “pleidlais dros Blaid yn bleidlais dros obaith”.

Dywed fod hyder Plaid Cymru yng ngallu Cymru i ddatrys ei phroblemau ei hun yn wahanol iawn i agwedd y Blaid Lafur a’r Ceidwadwyr, “sydd bob amser yn rhoi San Steffan gerbron Cymru”.

Ychwanega fod “rhaglen drawsnewidiol llywodraeth” ei blaid yn adlewyrchu graddfa’r newid a’r uchelgais sy’n ofynnol i ailadeiladu economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ar ôl y pandemig.

“Yn yr etholiad hwn yn fwy nag unrhyw un arall, mae pleidlais i Blaid Cymru yn bleidlais dros obaith,” meddai Adam Price ar drothwy etholiadau’r Senedd.

“Rydyn ni’n gwrthod credu bod unrhyw beth israddol am Gymru sy’n golygu na allwn ni ffynnu fel cenhedloedd annibynnol eraill ledled y byd.

“Mewn cyferbyniad ag agwedd anobeithiol Llafur a’r Torïaid a’u penderfyniad i roi San Steffan gerbron Cymru bob tro, rydym yn credu yng ngallu ein cenedl i ddatrys ei phroblemau ei hun.

“Mae pandemig Covid wedi gofyn gymaint ohonom mewn cymaint o ffyrdd. Mwy o garedigrwydd, mwy o amynedd, mwy o gryfder, a mwy o arloesi.

“Nawr yw’r amser i ddangos mwy o uchelgais nag erioed o’r blaen i sicrhau ein bod yn cwrdd â’r her o ailadeiladu ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus.”

Polisïau

“Dyna pam mae Plaid Cymru yn cyflwyno rhaglen drawsnewidiol o’r fath i’r llywodraeth adlewyrchu graddfa’r newid a’r uchelgais sy’n ofynnol i lwyddo,” meddai wedyn.

“O greu hyd at 60,000 o swyddi a darparu 50,000 o gartrefi cyhoeddus, o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd a gofal plant am ddim o 24 mis, ac o hyfforddi a recriwtio 6,000 o staff rheng flaen y Gwasanaeth Iechyd a thorri treth y cyngor ar gyfer yr aelwyd arferol, mae gweledigaeth Plaid Cymru yn rhoi gobaith.

“Gobaith am ddyfodol gwell, dyfodol tecach, a dyfodol lle gall ein cenedl a phawb sy’n ei galw’n gartref gyflawni eu potensial.

“Nid oes unrhyw beth na allwn ei gyflawni gyda’n gilydd, a gall y siwrnai honno ddechrau yfory gyda phleidlais dros Blaid Cymru, a phleidlais dros obaith.”