Eleni, mae’r Mudiad Meithrin yn dathlu 50 mlynedd ers ei sefydlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1971.

Er gwaethaf cyfyngiadau’r pandemig, mae nifer o weithgareddau wedi cael eu trefnu er mwyn nodi’r achlysur.

Ymhlith y dathliadau, mae logo newydd wedi cael ei ddylunio’n arbennig ar gyfer dathlu’r 50, ac mae Lowri Roberts, a enillodd y gystadleuaeth ar raglen Y Stiwdio Grefft ar S4C, wedi creu murlun i gyd-fynd ag englyn gan Myrddin ap Dafydd.

Er mwyn cyfrannu at y dathliadau, mae cyfres o fideos ‘Dawnsio gyda Dewis a Siani Sionc’ wedi cael eu creu, a byddan nhw’n cael eu rhannu â’r holl Gylchoedd, a bydd modd eu gweld nhw ar YouTube.

Mae Llyfr Dathlu 50 wrthi’n cael ei ysgrifennu gan Mererid Hopwood hefyd, gan anelu at ei lansio fis Hydref.

Bydd ‘Gŵyl Dewin a Doti Rhithiol’ gyda Martyn Geraint, Siani Sionc, a Dewi a Doti yn cael ei chynnal rhwng Mehefin 14 ac 18, a bydd ‘Wythnos Parti Dathlu 50’ yn digwydd rhwng Gorffennaf 5 a 10 hefyd.

Yn ogystal, bydd 50 Cylch Meithrin yn derbyn capsiwl amser i’w gladdu, a bydd 50 Cylch arall yn derbyn coed afalau i’w plannu yn yr hydref, er mwyn nodi’r achlysur.

“Holl genhadaeth a phwrpas ein gwaith yw defnyddio’r blynyddoedd cynnar fel cyfrwng i greu siaradwyr Cymraeg newydd o blith y plant na fyddai’n siarad Cymraeg fel arall, ac mae’r profiad o ddysgu trwy chwarae yn hollbwysig yn ei hawl ei hun,” meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin.

“Ond credaf mai gwaddol mwyaf y Mudiad fydd gweld nad oes mo’i angen ryw ddiwrnod, pan fydd ein cyfundrefn gofal ac addysg yn darparu’r gefnogaeth orau posib i’r plant lleiaf a hynny’n awtomatig trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Gobeithio y gwireddir hynny cyn cyrraedd y 100fed pen-blwydd!”