Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £100m i roi hwb i adferiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’r system ofal yn dilyn pandemig y coronafeirws.
Wrth gyhoeddi’r buddsoddiad, cyfaddefodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol newydd, Eluned Morgan AoS, y bydd yn “cymryd amser i adfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol”.
Daw hyn wrth i ffigyrau diweddaraf Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru ddatgelu bod 568,367 o bobol ar restrau aros am driniaeth neu lawdriniaeth – sy’n 18% o boblogaeth y wlad.
Ffigurau’n dangos y pwysau
Mae hynny 3.5% yn uwch na mis Chwefror eleni, ac yn gynnydd o 24.4% ers yr un cyfnod llynedd a dyma’r nifer uchaf ers i’r data ddechrau cael ei gasglu yn 2011.
Datgela’r ffigyrau bod 216,418 o bobol wedi aros mwy na 36 wythnos am driniaeth – 38% o’r holl bobol ar restr aros.
Y targed cyn y pandemig oedd 0.
Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar gyfanswm y cleifion sy’n aros i ddechrau triniaeth hefyd, gyda’r nifer yn cynyddu’n gyson bob mis ers mis Mai 2020.
Mewn mannau eraill, mae ffigurau’n dangos y pwysau sydd ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Cafodd y targed o 65% o alwadau ambiwlans ‘coch’ yn cael ymateb o fewn wyth munud ei fethu am y nawfed mis yn olynol, roedd yn 61% ym mis Ebrill 2021.
Fodd bynnag, mae yna lygedyn o obaith o ran nifer y cleifion sy’n aros am y cyfnod hiraf, gyda 1,237 yn llai o gleifion wedi aros dros naw mis o’i gymharu â mis Chwefror.
Offer, staff a thechnoleg newydd
Yn ôl y Eluned Morgan, sef y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bellach ers ad-drefniad cabinet Llywodraeth Cymru, bydd y £100m yn mynd tuag at offer, staff a thechnoleg newydd yn ogystal â ffyrdd newydd o weithio yn helpu byrddau iechyd i wella gwasanaethau ar draws gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal ysbyty.
Caiff y £100m cychwynnol ei ddyrannu fel a ganlyn:
- Caerdydd a’r Fro £13m i gynyddu’r capasiti ar gyfer amrywiaeth o therapïau a gwasanaethau diagnosteg, gan gynnwys recriwtio staff a dwy theatr symudol newydd.
- Powys £2.5m i drawsnewid gwasanaethau cleifion a chynyddu’r capasiti ar gyfer amrywiaeth o wasanaethau.
- Cwm Taf Morgannwg £16m i recriwtio a buddsoddi mewn capasiti llawdriniaethau a gwasanaethau diagnosteg.
- Hywel Dda £13m i gynyddu capasiti ar gyfer gofal wedi’i drefnu, gan gynnwys ail ddylunio ysbytai, buddsoddi mewn gwasanaethau diagnosteg ac offthalmoleg.
- Aneurin Bevan £17m ar gyfer prosiectau i gynyddu capasiti ym maes gofal wedi’i drefnu, gwasanaethau diagnosteg, therapïau ac iechyd meddwl.
- Bae Abertawe £16m i gynyddu capasiti mewn ystod eang o feysydd, gan gynnwys theatrau, recriwtio ac offthalmoleg.
- Betsi Cadwaladr £20m i gynnydd capasiti mewn gofal wedi’i drefnu, gwasanaethau canser, gwasanaethau deintyddol, diagnosteg ac endosgopi.
- Felindre £2.5m i gynyddu capasiti ar gyfer radiotherapi.
“Ffordd newydd o ddarparu gofal”
“Mae’n mynd i gymryd amser i adfer ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd hefyd angen buddsoddiad a ffordd newydd o ddarparu gofal,” meddai Eluned Morgan.
“Mae ymrwymiad anhygoel gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a gofal cymdeithasol wedi ein helpu drwy’r pandemig hwn, a gallwn bellach ddechrau meddwl am y dyfodol.
“Rwy’n benderfynol ein bod nawr yn darparu’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i helpu’r gwasanaeth i adfer.
“Does dim amheuaeth bod y dasg sydd o’n blaenau yn un fawr, ond mae hefyd yn bwysig cydnabod bod gennym nawr gyfle gwirioneddol i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.
“Rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i greu system iechyd a gofal sy’n addas ar gyfer y dyfodol.
“Yn sgil y pandemig, gwelwyd technoleg newydd a ffyrdd newydd o weithio’n cael eu mabwysiadu’n gynnar ac yn gyflym, a hoffwn weld byrddau iechyd yn adeiladu ar y gwaith da hwn.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £1bn yn ychwanegol i gefnogi ein cynllun adfer.
“Heddiw, rwy’n nodi sut y caiff y £100m cychwynnol ei ddyrannu i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ddechrau ar y gwaith hwn.”
Ceidwadwyr yn galw am “gynlluniau adfer clir”
Wrth drafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru dywedodd AoS Ceidwadol ar gyfer Dyffryn Clwyd, Gareth Davies: “Yn anffodus, mae Covid-19 wedi amlygu camreoli hanesyddol Llafur o’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gyda thanariannu a thriniaeth wael i staff yn gadael ein gwasanaeth gwerthfawr yn hynod fregus.
“Fe wnaethom ymuno â’r argyfwng gyda’r rhestrau aros uchaf erioed a thargedau canser heb eu cyrraedd ers 2008, ac wrth i ni ddod allan o’r pandemig, mae 1 o bob 5 o bobl yng Nghymru bellach wedi ar restr aros.
“Mae hyn yn achosi poen ac anghysur diangen i gannoedd o filoedd o bobol ledled y wlad ac yn peryglu bywydau, ac er ein bod yn croesawu unrhyw fuddsoddiad i fynd i’r afael â’r ôl-groniad enfawr, bydd y chwistrelliad hwn o arian parod ond yn crafu’r wyneb.
“Nawr mae angen i ni weld cynlluniau adfer clir yn cael eu datblygu a’u gweithredu ar gyfer pob maes iechyd cyhoeddus, gan ddefnyddio cyfleusterau trawsffiniol ac annibynnol i gyflymu triniaeth, fel y gallwn ailadeiladu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a thrin pobol cyn gynted â phosibl.”
“Amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig,” medd Plaid Cymru
Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal, Rhun ap Iorwerth AoS: “Mae effaith y pandemig ar amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi bod yn ddinistriol, gyda miloedd o driniaethau wedi’u gohirio a’u canslo, a miloedd o bobol yn debygol o fod wedi methu diagnosis o ganser.
“Fodd bynnag, rydym i gyd yn cofio bod amseroedd aros eisoes yn rhy uchel cyn y pandemig, felly ni all hyn ymwneud â dychwelyd pethau i’r ‘normal cyn pandemig’.
“I weddnewid pethau, rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno cynllun adfer pendant, uchelgeisiol, sy’n rhoi Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn gwell sefyllfa nag yr oeddem ar ddechrau’r pandemig.
“Fel mater o frys, rhaid i hyn flaenoriaethu diagnosis cynnar o ganser, gan ddod â’r diagnosio i mewn i’r system a darparu gofal effeithiol i’r cleifion hynny mewn camau diweddarach o ganser y bydd angen triniaethau mwy cymhleth arnynt.”