Mae Cyfarwyddwr Cynnwys a Gwasanaethau newydd BBC Cymru yn credu “y dylen ni ymfalchïo” mewn cyfleoedd i rannu ein talentau gyda chynulleidfaoedd tu hwnt i’n ffiniau.
Cafodd Rhuanedd Richards ei phenodi i’r swydd yn ddiweddar, ac wedi mis wrth y llyw, mae hi’n credu fod y “Gymraeg yn haeddu cael llwyfannau niferus er mwyn adlewyrchu pobol a lleisiau Cymru”.
Un o’i blaenoriaethau yn y swydd fydd sicrhau fod eu gweithlu a’u cynnwys yn gynrychiadol o’r wlad, a dywedodd wrth golwg360 ei bod hi’n awyddus i wneud yn siŵr fod BBC Cymru yn chwarae rhan wrth ddod â Chymru ynghyd wedi’r pandemig.
“Mae hi wedi bod yn fis a hanner â dweud y gwir, un peth ar ôl y llall, wrth fy modd,” meddai Rhuanedd Richards, a oedd yn olygydd Radio Cymru a BBC Cymru Fyw cyn derbyn ei swydd newydd.
“Dw i wedi bod yn gwneud ychydig bach o bob dim, o fod yn gyfrifol yn ddiweddar wrth gwrs am raglenni’n ymwneud â’r etholiad, a chael gweld BBC Cymru yn darlledu rhaglenni’r etholiad am y tro cyntaf o’r pencadlys newydd yng Nghaerdydd.
“Dw i wedi bod i weld y gerddorfa’n recordio traciau newydd ar gyfer cyfres newydd sy’n dod fyny yn yr Hydref, a dw i wedi bod yn cwrdd â’r Gymdeithas Bêl-droed i drafod pêl-droed i ferched…
“Dw i’n teimlo ei bod hi’n fraint.”
Sicrhau tegwch
Yn dilyn etholiad y Senedd, fe wnaeth y BBC wynebu cwestiynau ynghylch eu penderfyniad i ganiatáu i arweinydd Plaid Diddymu gymryd rhan yn y ddadl deledu, yn enwedig ag ystyried eu bod nhw wedi methu ag ennill yr un sedd.
Cyn yr etholiad, fe wnaeth Plaid Cymru alw ar arweinwyr y pleidiau eraill i gefnogi eu galwad i annog y BBC i wyrdroi eu penderfyniad.
“Wel mae’r BBC yn gorfod gwneud penderfyniadau eithaf anodd pan mae hi’n dod at bwy sy’n cael eu cynnwys, a phwy sydd ddim yn cael eu cynnwys yn y dadleuon yma,” meddai Rhuanedd Richards.
“Yn amlwg, dydyn nhw ddim yn gwneud y penderfyniad yma ar chwarae bach.
“Mae’n rhaid iddyn nhw edrych ar nifer o ffactorau, ac mae’n rhaid iddyn nhw fod yn gyson.
“Ymhlith y ffactorau hynny, mae’n rhaid edrych ar berfformiad etholiadol y pleidiau gwahanol, ond hefyd edrych ar berfformiad cyson mewn polau piniwn.
“Mae’n rhaid iddyn nhw ddod i gasgliad teg a chytbwys ar sail y data yna.
“Fe wnaeth un o’r pleidiau eraill wneud cwynion i bwyllgor etholiadol Ofcom yn sgil y ffaith eu bod nhw [Diddymu] wedi’u cynnwys yn y brif ddadl oedd yn digwydd yn y rhaglen, ac fe edrychodd Ofcom ar sut oedd y BBC wedi dod i gasgliadau, ac mi wnaethon nhw ddyfarnu ein bod ni wedi mynd ati mewn ffordd oedd yn deg.
“A dyna sy’n bwysig yn y pendraw, yw’r tegwch yna… fod y broses wedi seilio ar ffeithiau, nid ar chwarae bach ydyn ni’n dod i gasgliadau fel hyn, a bod yna reswm tu ôl i’r casgliadau. A dyna wnaethpwyd yn yr achos yma hefyd.
Cadarnhaodd Rhuanedd Richards mai BBC Cymru sy’n arwain ar benderfyniadau o’r fath, ond eu bod nhw’n derbyn cyngor gan y BBC yn ehangach.
“Yn y pen draw, un sefydliad yw hi. Ac mi fydd yna arbenigedd yn y meysydd polio, yn y meysydd data ar draws y BBC,” esboniodd.
“Felly mi fyddai yna nifer o bobol wedi cael bod yn rhan o’r drafodaeth yna, ond yn y pen draw rhaglen BBC Cymru oedd hon, ac fe wnaethpwyd y penderfyniad gan BBC Cymru.”
Addasu ar gyfer datganoli
“Mae’r drafodaeth wedi bod yn mynd ymlaen ers datganoli. Rhaid i mi ddweud – dw i ddim yn credu fod yna unrhyw newid sydd wedi cael gymaint o effaith yn fwy na’r pandemig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf,” meddai Rhuanedd Richards wrth ystyried a yw BBC Cymru wedi addasu’n dda i ddatganoli.
“Dim just y BBC, mae’n wir o ran llywodraethau, mae’n wir o ran cynulleidfaoedd ni.
“Rydyn ni wedi gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf fod nifer y bobol sydd wedi dod i edrych ar ein rhaglenni teledu ni, o sesiynau briffio’r Llywodraeth er enghraifft, wedi cynyddu yn fwyfwy wrth i fwy o bobol ddod i ddeall y gwahaniaeth rhwng y sefydliadau.
“Felly dw i’n credu ein bod ni fel cymdeithas gyfan wedi bod ar siwrne, dw i’n credu fod y BBC wedi bod ar siwrne.
“A dw i’n credu mai un o’r pethau sy’n gyffrous iawn i mi wrth i mi ddechrau ar y swydd yma yw’r cyhoeddiad polisi gan y BBC yn Llundain am eu bwriad nhw i sicrhau bod mwy o raglenni a chynnwys sy’n cael ei wneud yng Nghymru, am Gymru, yn cael ei ddangos a’i ddarlledu ar y rhwydwaith.
“Mae hynny’n wir am deledu, ac mae’n wir am radio. Mae yna ymdrechion hefyd i addasu ein llwyfannau ar-lein ni i sicrhau fod cynrychiolaeth Cymru yn gryf,” esboniodd.
“Dw i’n credu fod hyn yn gallu bod yn drawsnewidiol.
“Ac o wneud hynny, [gallwn ni] weld Cymru’n cael ei phortreadu drwy Brydain a thu hwnt. Os gymerwn ni The Pact, eto stori dda o Gymru gyda chast o Gymru, stori lle mae lleoliadau Cymreig amlwg hefyd.
“Dw i’n credu y dylen ni ymfalchïo yn y cyfle newydd yma sydd wedi dod gerbron i ni gael allforio ein talent ni, a rhannu ein talent ni gyda chynulleidfaoedd tu hwnt i’n ffiniau ni.”
Amrywiaeth o leisiau a chymunedau
“Haleliwia am amrywiaeth, a phlwraliaeth!” meddai Rhuanedd Richards, wrth ystyried sut fod yna nifer o blatfformau newyddion cyfrwng Cymraeg wedi cael eu lansio yn lled-ddiweddar.
“Gallen ni byth gael digon o newyddiaduraeth, mae wastad angen mwy, mae angen amrywiaeth lleisiau, mae angen amrywiaeth llwyfannau, amrywiaeth straeon.
“Mae’n rhaid i bobol Cymru gael y cyfle i glywed eu lleisiau nhw, i glywed am eu cymunedau nhw, eu straeon nhw, wedi eu hadlewyrchu ar amryw o lwyfannau.
“Mae angen i’r dadansoddi fod yn wahanol hefyd, dydyn ni ddim isie siarad gydag un llais. Nid un genedl gydag un llais sydd gennym ni fan hyn, ond cenedl gydag amrywiaeth o leisiau, amrywiaeth o gymunedau,” pwysleisiodd.
“Dw i’n credu mai dyna un o fy mlaenoriaethau i yn y swydd newydd yma, yw edrych ar sut allen ni gyrraedd mwy o bobol, mwy o gymunedau ar hyd a lled Cymru, ein bod ni’n siarad â Chymru gyfan, ac ein bod ni’n ymestyn allan ar gyfer sicrhau bod ein gwasanaethau cenedlaethol ni yn cynrychioli pob rhan o Gymru.
“Felly, bysen i byth yn dadlau fod yna ormod o newyddiaduraeth, gormod o lwyfannau, mae’r Gymraeg yn haeddu bod ganddi lwyfannau niferus er mwyn adlewyrchu pobol a lleisiau Cymru, fel unrhyw iaith arall.”
Annog menywod
Yn ôl Rhuanedd Richards, mae’n rhaid i sefydliadau ar draws Gymru wneud mwy i annog menywod i ddod yn arweinwyr.
“Dw i’n falch fy mod i wedi cael menywod yn fy ysbrydoli i i fod yn newyddiadurwraig i ddechrau, ond wedyn i fod yn arweinydd yn ogystal,” meddai.
“Pan o’n i tu fas i’r BBC, ddysges i gymaint am arweinyddiaeth gan bob math o bobol ond yn sicr gan nifer o fenywod eraill, a menywod oedd yn aml iawn yn gorfod cydbwyso dyletswyddau gofalu gyda’u huchelgeisiau gyrfaol nhw.
“Yn aml iawn, rydyn ni ferched yn ymgymryd â’r rôl gofalu yna falle yn fwy mewn cymdeithas.
“Ond dw i wedi dysgu, ar hyd y blynyddoedd, bod e’n bosib gyda digon o gefnogaeth a gyda’r cydbwysedd iawn i dal i geisio bod yn uchelgeisiol.
“Ydyn ni’n gallu gwneud yn well [y BBC]? Wrth gwrs ein bod ni, fel unrhyw sefydliad arall yng Nghymru. Mae’n rhaid i ni annog mwy o fenywod i fynd i swyddi arwain.
“Â dweud y gwir, blaenoriaeth arall sydd gen i yn y swydd yma yw sicrhau fod gweithlu BBC Cymru yn fwy cynrychioladol o gymdeithas gyfan,” ategodd.
“Mae hynny’n golygu mwy o fenywod yn arwain, a mwy o bobol o gefndiroedd du a lleiafrifoedd ethnig yn gweithio i BBC Cymru hefyd.
“Mae hynny’n bwysig o ran ein timau cynhyrchu ni, ac mae’n bwysig ar yr awyr, ac ar y sgrin yn ogystal.
“Dw i’n credu bod yna gynnydd wedi bod, oes yna le i wella? Oes, bob amser.”
Cyfleoedd yn hytrach na heriau
Wedi gweithio fel newyddiadurwraig ei hun, dywedodd Rhuanedd Richards fod y symudiad tuag at ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a phlatfformau ar-lein yn “gyfle” yn hytrach na’n her, a’u bod nhw’n gweld cyfleoedd newydd i’r Gymraeg hefyd.
Mae BBC Cymru newydd ryddhau’r podlediad cyntaf Cymraeg sydd wedi’i anelu at bobol LHDTC+, a bydd podlediad newydd Aled Hughes allan yn fuan.
“Dim ond cyfleoedd dw i’n eu gweld, yn hytrach na bygythiadau o ran hynny.
“Yn yr un ffordd â rydyn ni wedi addasu gwasanaethau i gyd-fynd ag anghenion Cymru yn ystod y cyfnod clo, dw isie fod BBC Cymru yna i gynulleidfaoedd Cymru wrth i’r genedl ddod at ei gilydd eto, ac wrth i Gymru ailagor.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf yma wedi achosi difrod anhygoel i fywyd cymdeithasol a diwylliannol ein cenedl ni.”
Yn ôl Rhuanedd Richards, mae cyfres newydd gyda Siôn Tomos Owen yn trafod Brexit, cyfres banel yn llawn chwerthin, rhaglen yn dilyn Nigel Owens wrth iddo ymddeol a dechrau pennod newydd, a Chystadleuaeth Canwr y Byd ymysg uchafbwyntiau’r arlwy ar gyfer y misoedd nesaf.
“Fy ngobaith i yw, wrth i bethau wella, y gall BBC Cymru chwarae rhan yn y broses o dynnu pobol at ei gilydd.
“Ein bod ni’n adnewyddu’r ysbryd o gydweithio ac arloesi, gan arwain gobeithio at fwy o werth mewn arian i’n cynulleidfaoedd ni a’r rhai rydyn ni’n eu gwasanaethu,” ac ychwanegodd fod hynny’n golygu mynd allan i gymunedau i gydweithio, trefnu a darlledu digwyddiadau, a mynd amdani gyda digwyddiadau mawr megis yr Ewros.
“Rydyn ni am danio dychymyg ein cynulleidfaoedd, a gwneud mwy i adlewyrchu eu bywydau nhw ar-lein, ar sgrin, ac ar yr awyr,” meddai, gan gyfeirio at gydweithio â’r Urdd ar gyfer darlledu Eisteddfod T ar Radio Cymru, a gyda’r Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer creu darllediadau arbennig.
“Dyna fel dw i’n ei weld yw ein blaenoriaeth ni, ac mae’n ddyletswydd arnom ni wrth i Gymru ailagor ein bod ni’n medru gwneud hynny.”