Mae BBC Cymru Fyw yn lansio y podlediad cyntaf yn y Gymraeg yn benodol i drafod materion LHDTC+ heddiw (Mai 15).

Bydd Esgusodwch fi? yn cael ei gyflwyno gan  gan yr actor Meilir Rhys Williams, a’r ymgyrchydd LHDTC+ a iechyd meddwl Iestyn Wyn.

Gan groesawu gwesteion adnabyddus i rannu safbwyntiau a phrofiadau personol, chwerthin a sgwrsio, a dadlau bydd y gyfres deuddeg pennod yn trafod hunaniaeth a materion cyfoes.

“Sgyrsiau pwysig”

“Dwi’n edrych ymlaen at wahodd pawb i fod yn rhan o drafodaethau yr ydym efallai yn llai cyfarwydd â nhw drwy gyfrwng y Gymraeg,” meddai Meilir Rhys Williams.

“Mi fydd y podlediad yma yn gyfle i bawb ofyn cwestiynau, i drafod ac i daflu golwg ar safbwyntiau gwahanol a materion y gymuned LHDTC+ yma yng Nghymru a thu hwnt.

“Diolch yn fawr i’r BBC Cymru am gefnogi ein syniad ac am greu gwagle cyhoeddus i ni gynnal y sgyrsiau pwysig yma.”

“Ar dân i greu a rhannu cynnwys”

“Dw i wir wedi bod yn edrych ‘mlaen at lansio Esgusodwch fi? Mae cael gweithio hefo Meilir ar y podlediad wedi bod yn gymaint o hwyl yn barod – ‘da ni ‘di bod wrthi ers mis Awst yn cynllunio!” ychwanegodd Iestyn Wyn.

“Mi yda ni ar dân i greu a rhannu cynnwys. Yn fwy na’ dim, dw i’n edrych ‘mlaen at groesawu llwyth o westeion difyr i ymuno hefo ni ac i glywed eu barn, profiadau a’u hanesion.

“Mae Cymru’n llawn pobl LHDTC+ difyr ac mae’n hen bryd i ni gael podlediad sy’n rhoi llais i gymuned LHDTC+ Cymru – a pham ddim gwneud hynny mewn podlediad sydd yn mynd i fod yn ychydig o bob dim; o’r mwydro ysgafn, i’r sgyrsiau sy’n mynd i fod yn rhoi’r byd a’i bobl yn eu lle.”

Mae’r bennod gyntaf ar gael ar BBC Sounds.