Mae’r portread olaf o Dylan Thomas wedi dod adre i Sir Gaerfyrddin.

Cafodd y portread, a gafodd ei baentio ddeufis cyn marwolaeth yr awdur, ei brynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin fis diwethaf.

Mae’r llun bellach wedi cyrraedd CofGâr, gwasanaeth amgueddfeydd y cyngor, yr wythnos hon ar ôl bod yn rhan o gasgliad preifat yr arlunydd, Gordon Stuart, a ddarluniodd y portread, tan ei farwolaeth.

Daw hyn ar Ddiwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas heddiw (Mai 14), ac ar yr un pryd â lansio archif ddigidol sy’n cynnwys miloedd o eitemau sy’n ymwneud â’r bardd a’r dramodydd.

Cafodd y llun ei brynu mewn ocsiwn o ystâd yr artist am £15,000, a bydd yn cael ei warchod yn broffesiynol cyn cael ei arddangos mewn oriel newydd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ym mis Medi.

Ar ôl hynny, bydd y llun yn mynd ar daith i gartref Dylan Thomas, a lleoliadau eraill yn yr ardal, cyn dychwelyd i Sir Gaerfyrddin.

Plentyn

Ers cael ei beintio ym mis Medi 1953, dim ond dwywaith mae’r llun wedi cael ei weld yn gyhoeddus – yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1954, a thrigain mlynedd yn ddiweddarach yn y tŷ y bu Dylan Thomas yn byw ynddo’n blentyn.

Roedd y paentiad hwn ymhlith pedwar a gafodd eu peintio dros dri phrynhawn yng nghartref a sied ysgrifennu’r awdur yn Nhalacharn.

Mae dau o’r lluniau eraill ym Mhrifysgol Talaith Efrog Newydd yn Buffalo, a’r trydydd yng nghasgliad yr Oriel Bortreadau Genedlaethol.

“Rydym ni wrth ein bodd ein bod yn dod â’r paentiad hwn yn ôl i’r man lle treuliodd Dylan Thomas ei flynyddoedd olaf,” meddai’r Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon, a Thwristiaeth.

‘Mwynhau’

“Bydd y portread yn edrych yn wych yn yr oriel newydd yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn ddiweddarach eleni i bawb ei fwynhau.”

“Cawsom y fraint o arwerthu’r portread olaf o Dylan Thomas a luniwyd cyn ei farwolaeth annhymig, ac rydym yn falch iawn o weld bod y paentiad wedi aros yng Nghymru,” meddai’r arwerthwr, Ben Rogers Jones.

“Mae cael gwybod bod y portread hwn yn ymweld â chartref Dylan Thomas yn goron ar y cyfan! Mae’n teimlo fel petai’r portread wedi dod adref ato.”