Mae casgliad sy’n cynnwys rhai o ddarnau enwocaf Dylan Thomas bellach ar gael am ddim ar-lein fel rhan o archif ddigidol newydd.
Yn y casgliad mae llawysgrifau, nodiaduron, gohebiaeth, lluniau a ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r llenor o Abertawe.
Mae Casgliad Dylan Thomas yn cynnwys mwy na 6,000 o ddelweddau digidol, a bydd yn rhoi cyfle i bobol ledled y byd astudio ei waith a deall ei broses greadigol.
Mae’r prosiect, sy’n cael ei gefnogi gan Ymddiriedolaeth Dylan Thomas, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe a Chanolfan Harry Ransom ym Mhrifysgol Tecsas, sy’n berchen ar y casgliad mwyaf yn y byd o drawsgrifiadau a llythyrau’r bardd a’r dramodydd.
Fel rhan o’r casgliad, gall pobol weld llawysgrif o un o gerddi enwocaf Dylan Thomas, Do Not Go Gentle Into That Good Night.
Mae deunyddiau sy’n gysylltiedig â’r ddrama radio Under Milk Wood hefyd yn rhan o’r archif, gan gynnwys nodiadau helaeth, brasluniau, amlinelliadau, drafft cynnar anghyflawn, a llawysgrif ddiwygiedig.
Cafodd Dylan Thomas ei eni yn Uplands, Abertawe ym 1914 a bu farw yn Efrog Newydd ym 1953, ac er gwaethaf ei fywyd byr, mae’n cael ei ystyried fel un o feirdd Saesneg mwyaf yr ugeinfed ganrif.
“Dyfnhau ein dealltwriaeth”
“Bydd y fenter hon yn dyfnhau ein dealltwriaeth o broses greadigol Dylan Thomas ac yn rhoi goleuni newydd ar ei farddoniaeth a’i waith llenyddol arall,” meddai Stephen Enniss, Cyfarwyddwr Betty Brumbalow Canolfan Harry Ransom.
“Rydym yn ddiolchgar am y cydweithrediad hwn â Phrifysgol Abertawe ac yn ddiolchgar hefyd i Ymddiriedolaeth Dylan Thomas am ein galluogi i rannu’r casgliad gyda’i ddarllenwyr ym mhob man.”
“Ysbrydoli darllenwyr newydd”
“Rydym yn falch o fod yn rhan o’r fenter hon ar y cyd â Phrifysgol Tecsas, sy’n dangos manteision helaeth cydweithredu rhyngwladol rhwng prifysgolion,” ychwanegodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe.
“Gobeithio y byddwn yn ysbrydoli darllenwyr newydd a phrofiadol wrth i ni geisio sicrhau bod y casgliad mwyaf yn y byd o ddeunyddiau Dylan Thomas ar gael yn eang i bobl ym mhob man.
“Rydym yn diolch yn arbennig i Ymddiriedolaeth Dylan Thomas am barhau i gefnogi’r prosiect pwysig hwn.”
Mae’r archif ddigidol yn cael ei lansio i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Dylan Thomas heddiw (Mai 14).