Mae Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid creadigol fydd yn rhan o’r prosiect ‘Blaguro’.
Bwriad y prosiect yw cyfuno gwaith ymarferwyr creadigol gyda grwpiau cymunedol drwy sefydlu gardd gymunedol ar dir Yr Egin.
Cafodd y prosiect, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ei gynllunio fel ffordd o ailgysylltu gyda chymunedau tref Caerfyrddin gan geisio bod mor gynhwysol â phosib.
Yr artistiaid
Yn dilyn galwad agored i artistiaid sy’n byw yn y De-orllewin, mae saith o artistiaid wedi cael eu dewis i fod yn rhan o’r prosiect.
Bydd pob un o’r artistiaid yn cydweithio gydag un grŵp cymunedol yn benodol.
Mae gan yr artistiaid amrywiaeth o sgiliau ac arbenigedd, a bydd y prosiect yn caniatáu i’r artistiaid weithio o fewn eu milltir sgwâr.
Ymhlith yr artistiaid mae Betsan Haf o Bontarddulais, sy’n berchennog cwmni ‘Celf Calon’, ac er mai ffotograffiaeth yw ei phrif arbenigedd, mae hi hefyd yn gwneud gwaith dylunio, ffilmio a dylunio, cyfansoddi, a pherfformio.
Bydd Eddie Ladd hefyd yn ymuno â’r criw, a’i rôl hi fydd cydweithio gyda myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r artistiaid eraill yn cynnwys Aled Owen, sy’n berchen ar gwmni ynni adnewyddadw, y cerflunydd Mark Folds, a’r artist cymunedol Dorothy Morris.
Yn ogystal, bydd Rebecca Kelly yn cydweithio â chriw Gwneud Bywyd yn Haws, ac Emma Baker yn gweithio gyda’r grŵp cymunedol Tŷ Hapus.
“Cyfoethogi’r ardd” a “chyfle arbennig”
“Wrth i gynllunia’ ein gardd Gymunedol ar dir Yr Egin ddod ynghyd, rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gydag artistiaid proffesiynol o’r rhanbarth, bydd yn cyfoethogi’r ardd ac yn rhoi cyfle arbennig i bobl leol ymwneud â’r Egin mewn modd creadigol safonol,” meddai Llinos Jones, Swyddog Prosiect Ymgysylltu Canolfan S4C Yr Egin.
“Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol iawn i artistiaid yma yng Nghymru, ac rydym ni yn Yr Egin yn falch iawn o allu cynnig y cyfle i artistiaid weithio yn agos efo cymunedau gerllaw ar greu a datblygu celf.
“Daw’r holl syniadau gan y gymuned a’r artistiaid, ac rydym yn hynod gyffrous i fod yn rhan o’r siwrne yma, a chael dod â phobol ynghyd i weithio unwaith eto, a hyn mewn modd diogel a phroffesiynol.”
Bydd y gwaith ar y prosiect yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf.