Mi all Plaid Cymru ennill tir yn y Cymoedd os wnawn nhw gefnogi cydffederaliaeth yn hytrach nac annibyniaeth.

Dyna farn Nigel Copner, cyn-aelod a fu’n Drysorydd y Blaid, ac a fu’n ymgeisydd iddynt ym Mlaenau Gwent yn 2016 (gan ddod yn agos at guro Llafur).

Roedd arolygon barn wedi darogan y gallai Plaid Cymru ennill Blaenau Gwent – ond ni ddigwyddodd hynny ac mi wnaethon nhw golli sedd y Rhondda.

Mae Nigel Copner yn dweud bod y canlyniad yn ddim syndod iddo, a bod annibyniaeth yn wrthun i bobol y Cymoedd.

Mae yntau o’r farn y dylai’r Blaid gefnu ar annibyniaeth, am y tro, a chefnogi cydffederaliaeth – sefyllfa lle byddai gan Gymru mwy o bŵer oddi fewn i undeb y Deyrnas Unedig.

“Gydag annibyniaeth yn brif fater, mi fydd yn anodd iawn ennill tir ym Mlaenau Gwent,” meddai. “Efallai wneith pethau newid yno mewn degawd neu ddau.

“Ond ar hyn o bryd wnawn nhw ddim ennill sedd ym Mlaenau Gwent tra’u bod o blaid annibyniaeth. Ond byddan nhw yn ei ennill â safiad o blaid cydffederaliaeth. Mae modd gwerthu hynna.”

“Does dim cefnogaeth lan yna [at annibyniaeth],” atega. “Dyw e’ ddim yn apelio i bobol. Mae’n rhy gynnar. Mae pobol yn gwybod eu pethau am hyn. Maen nhw’n gwybod y bydd e’n broblem ariannol.

“Dw i’n credu bod angen pwsio am gydffederasiwn, i weithio ar y diffyg ariannol. Ac yna cyrraedd pwynt lle gellir mynnu annibyniaeth heb yr holl bryderon ariannol.”

Roedd yn ddigon beirniadol pan gefnodd ar Blaid Cymru yn 2019, ond mae’n dweud nad oes drwgdeimlad o gwbl.

Mae hefyd yn dweud y byddai’n ailymuno â’r Blaid pe bai hi’n cefnogi cydffederaliaeth.

“Mae gydag Adam syniadau ffantastig,” meddai. “Does gen i ddim problemau ag ymgyrchu Adam.

“Mae’n anhygoel fel ymgyrchydd. Mae ei syniadau yn ffantastig.”

Amddiffyn ei sylwadau

Yn ystod yr wythnosau yn arwain at etholiad y Senedd, bu Nigel Copner yn rhannu negeseuon sydd yn lled-gefnogol i Blaid Diddymu’r Cynulliad, ac yn herio’r Gymraeg yn y system addysg.

“Mae gorfodi’r Gymraeg ar bobol yn rong yn fy marn i,” meddai mewn trydariad.

“Byddai cael ambell AoS Diddymu yn y Senedd yn rhoi sail ar gyfer trafodaethau adeiladol a chytbwys am ddatganoli ac annibyniaeth. Pob lwc [iddynt].”

Yn siarad â golwg360 mae wedi manylu ymhellach ar y sylwadau yma.

“Mae’r Gymraeg yn grêt”

O ran ei sylwadau am y Gymraeg mae’n awgrymu ei fod wedi cael ei gamddehongli, ac mae’n dweud nad yw’n gwrthwynebu’r Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg yn grêt”, meddai, ac mae’n dweud bod yr ymateb tanllyd i’w sylw am y Gymraeg wedi ei “ypsetio”.

“Dw i’n ddysgwr Cymraeg, a dw i’n cefnogi’r Gymraeg,” meddai.

“Ond dw i wedi gweld – a dw i wedi clywed am hyn gan eraill – plant yn stryglo gyda mathemateg a Saesneg, gwedwch, yn yr ysgol uwchradd.

“Ac maen nhw’n teimlo y byddai’n well ganddyn nhw rannu’u hamser rhwng pob pwnc, yn hytrach na dysgu iaith arall, y Gymraeg.

“Ry’n ni eisiau mwy o Gymraeg mewn ysgolion, ond lle mae plant yn stryglo gyda’r pynciau craidd – dw i’n derbyn allech chi ddadlau bod y Gymraeg yn bwnc craidd – [dylai bod nhw’n medru optio mas o’r Gymraeg].”

Diddymu-frydig?

O ran Plaid Diddymu’r Cynulliad, a yw felly’n siomedig eu bod wedi methu ag ennill sedd? “Na, ddim o gwbl,” meddai.

Felly beth yn union oedd y rhesymeg y tu ôl y trydariad?

“Os ydych chi eisiau gwneud penderfyniad ynghylch rhywbeth mawr fel [annibyniaeth], rydych angen pobol o bob safbwynt wrth yr un bwrdd,” meddai.

“Felly os fydd pleidlais o blaid annibyniaeth, bydd hynna ar y ffurf orau … Os ydych chi jest yn mynd i gael pobol sydd o blaid annibyniaeth rownd y bwrdd yn trafod rydych yn mynd i ddod i un safbwynt.

“Ond os oes gennych bobol wahanol gyda safbwyntiau gwahanol rydych yn mynd i ddod mas, o bosib, mewn safle llawer cryfach.

“Felly, ie, allwch chi gael pobol o Blaid Diddymu yno yn adlewyrchu eu safbwyntiau ynghylch pam y dylwn fod yn rhan o undeb.

“Allwn ni drafod hynny wedyn, ac rydych yn diweddu fyny â dadleuon llawer cryfach tros annibyniaeth.”