Fe fydd Mark Drakeford yn cadarnhau heddiw (Mai 14) y bydd Cymru yn symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn cadarnhau y bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun (Mai 17), ond y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i deithio dramor dim ond os yw hynny’n hanfodol.

Mae hyn yn wahanol i gyngor Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n dweud y caiff pobl yn Lloegr deithio i wledydd tramor ar y rhestr werdd (megis Portiwgal) o ddydd Llun, heb y cyngor am deithio hanfodol.

Yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd busnesau lletygarwch dan do yn cael ailagor, bydd lleoliadau adloniant dan do hefyd yn ailagor, a chaiff mwy o bobl fynd i gweithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn yr awyr agored.

Teithio rhyngwladol

Bydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau ddydd Llun, 17 Mai.

Bydd system goleuadau traffig yn cael ei chyflwyno, a fydd yn cyd-fynd â’r system a fydd yn cael ei defnyddio yn Lloegr a’r Alban – bydd gwledydd yn cael eu dosbarthu i gategorïau gwyrdd, oren a choch.

Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i nifer bach o gyrchfannau tramor heb orfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Mae cwarantin yn orfodol o hyd i’r rhai sy’n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar y rhestr werdd.

O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd statws brechiad ar gael ar bapur i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad sy’n gofyn am brawf o’u brechiadau Covid.

Fodd bynnag, yn y cyfnod adolygu hwn, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori pobl i deithio dramor dim ond pan fydd hynny’n hanfodol – cynhelir adolygiadau bob tair wythnos.

Newidiadau dydd Llun

Mae’r newidiadau i gyfyngiadau’r coronafeirws, a ddaw i rym ddydd Llun 17 Mai, yn cynnwys y canlynol:

  • Gall lleoliadau lletygarwch dan do ailagor – i chwe pherson o hyd at chwe aelwyd (heb gynnwys plant o dan 11 oed)
  • Gall pob llety gwyliau ailagor yn llawn
  • Gall lleoliadau adloniant, gan gynnwys sinemâu, neuaddau bingo, alïau bowlio, canolfannau chwarae dan do, casinos, arcedau difyrion a theatrau ailagor. Gall sinemâu, theatrau, neuaddau cyngerdd a meysydd chwaraeon werthu bwyd a diod cyn belled â’i fod i’w fwyta a’i yfed wrth eistedd i wylio’r perfformiad;
  • Gall atyniadau dan do i ymwelwyr ailagor, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau;
  • Gall hyd at 30 o bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau dan do wedi’u trefnu a hyd at 50 o bobl mewn gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu. Mae hyn yn cynnwys derbyniadau priodas a the angladd.

Newidiadau canlynol posibl

Os bydd yr amodau o ran iechyd y cyhoedd yn aros yn gadarnhaol, bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf yn ystyried y canlynol:

  • Newidiadau pellach o ran cwrdd â phobl mewn cartrefi preifat;
  • Cynyddu nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored a nifer y bobl a all fynd i weithgareddau a digwyddiadau wedi’u trefnu, gan gynnwys derbyniadau priodas, i 50 dan do a 100 yn yr awyr agored;
  • Caniatáu i ddigwyddiadau mwy o faint gael eu cynnal dan do ac yn yr awyr agored.

“Cam arall tuag at lacio cyfyngiadau”

“Diolch i waith caled pawb a’r ymdrechion rydych chi’n dal i’w gwneud, fe allwn ni gymryd cam arall tuag at lacio cyfyngiadau’r coronafeirws a symud i lefel rhybudd dau ddydd Llun,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Bydd modd i letygarwch dan do ailagor, cam y bydd llawer ohonon ni’n ei groesawu wrth inni edrych ymlaen at fwynhau diod, pryd o fwyd a chwmni ffrindiau a theulu mewn caffi neu dafarn.

“Drwy ddal ati i gadw’r rheolau a gweithredu ein rhaglen frechu lwyddiannus, rydyn ni’n gwneud cynnydd da iawn o ran rheoli’r feirws a chadw’r cyfraddau yn isel.

“Ond dydy’r pandemig ddim drosodd – mae’r amrywiolyn newydd o India sy’n peri pryder yn dro arall yn stori’r pandemig hwn nad oedden ni am ei weld, ac rydyn ni’n ei fonitro’n ofalus.”