Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi talu teyrnged i Dafydd Elis-Thomas ar ei ymddeoliad o’r Senedd ac annog y llywodraeth newydd i bwyso am ddatganoli mwy o bwerau o Lundain i Fae Caerdydd.

Gan nodi cyfraniad Dafydd Elis-Thomas i wleidyddiaeth leol a chenedlaethol, aeth y Cynghorydd Dyfrig Siencyn ymlaen i ymosod ar y ffordd “ddirmygus a sarhaus” y cafodd Llywodraeth Cymru a gweinidogion eu trin gan ffigyrau yn “Llywodraeth Lloegr” yn ystod y pandemig.

Yn dilyn llwyddiant Llafur Cymru yn yr etholiad, llongyfarchodd arweinydd Cyngor Gwynedd Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, am ei agwedd “gyson, onest a di-nonsens” at y pandemig, a dywedodd ei fod yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â dull Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson.

“Doethach a mwy effeithiol”

“Yn ystod y flwyddyn ddiwetha’ mi ddangoswyd fel y gallai Cymru weithdredu’n ddoethach a mwy effeithiol na llywodraeth Lloegr ac fe ddangoswyd hefyd yn glir yr angen am lawer iawn mwy o bwerau i Gymru,” meddai Dyfrig Siencyn.

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd

“Mewn cyfarfodydd gyda gweinidogion dros y flwyddyn diwetha’, ac mae’n rhaid cydnabod roedd cyfarfodydd wythnosol bron gyda gweinidogion y llywodraeth, fuodd na erioed gystal deialog rhyngddon ni a gweinidogion…

“[Ac] roeddwn i yn dyst i’r modd hollol ddirmygys a sarhaus y bu i lywodraeth Lloegr ymdrin a’n llywodraeth ni a’n gweinidogion ni yma dros y fwyddyn diwetha’.

“Mae’u hymdrechion haerllug nhw i danseilio datganoli yn warth; felly, yr her i’r blaid Lafur rwan ydi dangos eu bod yn barod i sefyll yn gadarn dros Gymru gan fynnu mwy o bwerau ac i wir sefydlu’i hunain fel plaid hollol anibynnol Gymreig gan dorri’n rhydd o’u cynghreiriaid yn Lloegr.”

“Ei adnabyddiaeth o’r etholaeth a’i phobl yn rhyfeddol”

Wrth i Dafydd Elis-Thomas gamu i lawr o gynrychioli Dwyfor Meirionnydd ar ôl bron i hanner can mlynedd o wasanaeth gwleidyddol, manteisiodd arweinydd Cyngor Gwynedd ar y cyfle i dalu teyrnged iddo.

“Hoffwn hefyd ddymuno’n dda i Dafydd Elis Thomas wrth iddo ymddeol o’r Senedd ar ôl oes o wasanaeth i Gymru ac yn enwedig Meirionnydd,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Fel hogyn o Feirionnydd dwi’n cofio’n iawn gwrando ar y canlyniad ar sgwar Dolgellau yn Chwefror 1974 pan enillodd Dafydd y sedd yn ddyn ifanc iawn.

“Byth ers hynny mae wedi gwasanaethu yn ddi-dor mewn rhyw fodd i ryw sefydliad a dwi wedi ymnweud llawer iawn gydag o dros y blynyddoedd.

“Mi oedd ei adnabyddiaeth o’r etholaeth a’i phobl yn ryfeddol ac roedd yn aelod hynod weithgar ac effeithiol dros y sir.”

Anghytuno

“Mi wnes anghytuno a Dafydd sawl gwaith, hyd at daro un noson ond ddaru ni ddim wrth lwc! Ond er hynny dwi wedi’i edmygu a mae’i waith fel llywydd y Cynulliad wedi bod yn allweddol yn sefydlu sylfeini cadarn a rhoi statws i’r corff hwnnw,” medd Dyfrig Siencyn.

“Mae’i barodrwydd i weithio’n drawsbleidiol yn ddadleuol i ddweud y lleia’, ond gwnaeth hynny o argyhoeddiad a’r teimlad mai dyna’r ffordd i gyflawni.

“Ga’i ddiolch i Dafydd am ei holl waith ac am ein cynyrchioli cyhyd, mae wedi bod yn fraint cydweithio ag o a dwi’n siwr bydd yn parhau i gyfrannu mewn rhyw fodd yn yr ail dy yn Llundain.”

Buddugoliaethau sylweddol

Llongyfarchodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn hefyd AoS etholedig Arfon, Sian Gwenllian, a Mabon ap Gwynfor, a sicrhaodd y bydd Dwyfor Meirionnydd yn cael ei chynrychioli unwaith eto gan Blaid Cymru.

“Ga’i longyfarch Sian a Mabon sydd wedi sicrhau buddugoliaethau sylweddol iawn,” meddai’r Cynghorydd Siencyn.

“Mae’r ddau yn gyn gynghorwyr sir a dwi’n mawr obeithio byddan nhw yn cofio am lywodraeth leol yn eu gwaith yn y Senedd ac yn cefnogi pob ymdrech i rymuso ac amddiffyn llywodraeth leol yn erbyn unrhyw fygythiad ac yn sicrhau byddwn yn derbyn cyllid digonol…”