Yn sgil buddugoliaeth fawr i’r Blaid Lafur yn etholiad y Senedd, mae Prif Weinidog Cymru bellach wedi cyhoeddi cabinet gwahanol ei wedd.

Bydd newid hinsawdd, creu swyddi gwyrdd newydd, ac adfer wedi’r pandemig wrth wraidd y Llywodraeth newydd, yn ôl y Prif Weinidog, ac mae dwy rôl newydd wedi eu creu ar gyfer canolbwyntio ar newid hinsawdd.

Bydd y weinyddiaeth newid hinsawdd newydd yn dwyn ynghyd bortffolios yr amgylchedd, ynni, tai, cynllunio a thrafnidiaeth.

Mae menywod wedi’u penodi i ddwy o bob tair o’r swyddi yn y Cabinet.

Manylion

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth hyd yma, bellach wedi gadael y cabinet yn llwyr, ac mae ei bortffolio wedi ei rhoi – yn rhannol – i Vaughan Gething.

Mae Vaughan Gething wedi bod yn Weinidog Iechyd dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys trwy gydol cyfnod yr argyfwng, ac mae bellach wedi ei benodi yn Weinidog yr Economi.

Eluned Morgan sydd yn awr â’r portffolio iechyd – mae hi wedi ei phenodi yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a bydd hi’n gyfrifol am ganolbwyntio ar adferiad y Gwasanaeth Iechyd ac ymateb i’r pandemig.

Roedd hi eisoes yn gyfrifol am iechyd meddwl, llesiant, a’r Gymraeg.

Bydd Julie Morgan yn parhau yn ei rôl fel Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol gynt, sydd bellach yn gyfrifol am yr iaith dan yr enw ‘Gweinidog y Gymraeg ac Addysg’.

Fel rhan o’i rôl, bydd e hefyd yn goruchwylio’r broses o gyflwyno cwricwlwm newydd Cymru.

Roedd Jeremy Miles yn Gwnsler Cyffredinol ac yn gyfrifol am bortffolio Brexit. Mick Antoniw yw’r Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad bellach, ac mae e’n wyneb newydd i’r cabinet.

Mae Mr Antoniw wedi bod yn flaenllaw yn y drafodaeth o fewn y Blaid Lafur am Brydain Ffederal – gallwch ddarllen mwy am hynny isod.

Prydain ffederal: ymdrech i annog dadl “ddifrifol” o fewn y Blaid Lafur

Iolo Jones

Mae melin drafod annibynnol yn gobeithio “tanio trafodaeth” am ddyfodol y Deyrnas Unedig

“Adeg dyngedfennol”

“Mae Ken wedi bod yn gaffaeliad mawr yn y Cabinet ac wedi darparu llais ar gyfer y Gogledd,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford ar ymadawiad Ken Skates, sy’n dychwelyd i’r meinciau cefn.

“Bydd e’n parhau i godi llais dros y Gogledd a Llafur Cymru ond mewn rôl wahanol,” meddai Mr Drakeford.

“Byddwn ni’n gweld eisiau ei egni a’i angerdd.”

O ran rôl newydd Vaughan Gething, dywedodd y Prif Weinidog:

“Daw Vaughan yn Weinidog yr Economi ar adeg dyngedfennol – nid argyfwng iechyd y cyhoedd yn unig yw’r pandemig, mae hefyd yn argyfwng economaidd.”

Yr etholaeth “yn flaenoriaeth”

“Yr wythnos hon fe wnes i roi gwybod i’r Prif Weinidog fy mod i’n dymuno camu lawr o Lywodraeth Cymru. Ar ôl wyth mlynedd yn y llywodraeth, nawr yw’r amser cywir,” meddai Ken Skates ar Twitter.

“Mae De Clwyd wedi parhau yn flaenoriaeth gyntaf i mi, a bydd fy mhenderfyniad yn caniatáu i mi dreulio mwy o amser yn yr etholaeth, canolbwyntio ar faterion lleol, yn ogystal â chryfhau safle’r blaid yng Ngogledd Cymru.

“Byddaf yn parhau yn gefnogwr ffyddlon i’r Prif Weinidog Mark Drakeford ac i Lywodraeth Llafur Cymru o’r meinciau cefn.

“Yn fwy na dim, byddaf yn treulio’r bum mlynedd nesaf yn canolbwyntio’n ddygn ar helpu pobol a chymunedau De Clwyd fel Aelod lleol y Senedd.”

Newidiadau eraill

Mae yna ddau wyneb newydd arall yn y cabinet hwn sef Dawn Bowden, sef y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip newydd; a Lynne Neagle, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant newydd – mae’r ddwy yn ffigyrau sydd wedi bod yn y Senedd ers blynyddoedd maith.

Roedd yna wagle i’r ddwy, ynghyd â’r wyneb newydd arall, Mick Antoniw, yn dilyn ymadawiad Dafydd Elis-Thomas a Kirsty Williams – dau AoS na safodd yn yr etholiad eleni – ynghyd ag ymadawiad Ken Skates.

Bydd Julie James yn dod yn Weinidog Newid Hinsawdd, a Lee Waters yn Ddirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, gan lenwi’r ddwy rôl newydd.

Dyma arwydd o bosib, bod y Llywodraeth yn bwriadu rhoi gryn bwys ar argyfwng yr hinsawdd.

Lesley Griffiths fydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, gan gymryd yr elfen Gogledd Cymru gan Ken Skates. Hi hefyd fydd y Trefnydd.

Rebecca Evans yw’r Gweinidog Cyllid o hyd – ond mae’n ychwanegu llywodraeth leol at ei phortffolio.

Dyw cabinet Mark Drakeford ddim wedi newid rhyw lawer ers iddo ddod i rym am y tro cyntaf yn 2018 – ni ddylid, felly, anwybyddu arwyddocâd y newidiadau hyn.

Aelodau’r cabinet a gweinidogion

  • Mark Drakeford, Y Prif Weinidog
  • Mick Antoniw, Darpar Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
  • Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
  • Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi
  • Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip
  • Lesley Griffiths, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd
  • Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
  • Hannah Blythyn, Y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol
  • Julie James, Y Gweinidog Newid Hinsawdd
  • Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
  • Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
  • Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant