Mae Adam Price wedi dweud “na allwn ni aros nes bydd y pandemig drosodd” cyn cynnal ymchwiliad i’r ymateb yng Nghymru.

Yn ôl arweinydd Plaid Cymru, dylai Llywodraeth Cymru “arwain y ffordd drwy lansio ymchwiliad ar unwaith”.

Hyd yn hyn, mae Mark Drakeford wedi gwrthod galwadau’r gwrthbleidiau am ymchwiliad penodol i Gymru, gan ddweud y dylai’r ymchwiliad ystyried y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Daw galwadau Adam Price wedi i Boris Johnson gyhoeddi ddoe (Mai 12) y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i’r pandemig a fydd yn edrych ar ymateb y Deyrnas Unedig i gyd.

Ni fydd yr ymchwiliad yn dechrau tan Gwanwyn 2022, ac mae Adam Price yn mynnu fod “angen dysgu gwersi nawr” gan nad yw’r pandemig drosodd.

“Disgwyl dim llai”

“Dylai sefydlu ymchwiliad annibynnol Cymreig i’w hymdriniaeth o’r pandemig fod yn un o weithredoedd cyntaf y Llywodraeth Llafur Cymru yma,” meddai Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru, wrth ymateb i gyhoeddiad Boris Johnson.

“Tra bod San Steffan yn disgwyl nes gwanwyn y flwyddyn nesaf cyn hyd yn oed dechrau’r gwaith, gallai Llywodraeth Cymru osod eu cynlluniau eu hunain, ac arwain drwy esiampl gan sefydlu ymchwiliad ar unwaith tra bod atgofion dal yn ffres, a gallai’r canfyddiadau fod yn barod cyn gynhared â dechrau’r hydref.

“Gallai ymchwiliad annibynnol Cymreig, sy’n rhedeg ochr yn ochr ag un ar gyfer y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, ganolbwyntio’n gliriach ar y ffordd y gwnaeth Llywodraeth Cymru ymateb, effeithlonrwydd sicrhau offer diogelwch personol a’r systemau profi ac olrhain, ac, yn hollbwysig, sut y gallwn ni amddiffyn ein dinasyddion yn well rhag pandemigau yn y dyfodol.

“Bydd Covid-19 efo ni am beth amser eto. Ni allwn ni aros nes bydd y pandemig drosodd,” ychwanegodd.

“Mae’n rhaid dysgu gwersi nawr. Ni ddylai ymchwiliad o’r fath anwybyddu’r un mater wrth ateb cwestiynau anodd yn llawn ac yn onest.

“Bydd pobol Cymru – yn enwedig y rhai sydd wedi’u heffeithio’n uniongyrchol gan oblygiadau dinistriol y pandemig – yn disgwyl dim byd llai.”

“Y ffordd iawn”

“Dyna’r ffordd iawn, rwy’n meddwl, i gael yr atebion y mae pobl y wlad hon yn eu haeddu ac i sicrhau bod ein Teyrnas Unedig yn fwy parod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol,” meddai Boris Johnson am yr ymchwiliad fydd yn ystyried ymateb y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.

Nododd Downing Street y byddai Boris Johnson yn fodlon rhoi tystiolaeth ar lw pe gofynnid iddo, gyda llefarydd swyddogol y Prif Weinidog yn dweud y bydd yn cydymffurfio â’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer yr ymchwiliad.

Amddiffynnodd rhif 10 amserlen yr ymchwiliad hefyd, gan ddweud bod “angen llawer iawn o amser y Llywodraeth ar y mathau hyn o ymchwiliadau”.

Dywedodd Boris Johnson y byddai ymgynghori â llywodraethau datganoledig cyn cyhoeddi cwmpas terfynol yr ymchwiliad.

Llywodraeth Prydain i sefydlu ymchwiliad i’r pandemig

Daw hyn wrth i adroddiad damniol ddatgan y gallai ymateb rhyngwladol cyflymach fod wedi atal trychineb fyd-eang