Mae’r fenyw gyntaf o liw i ennill sedd yn Senedd Cymru yn dweud bod diffyg amrywiaeth mewn gwleidyddiaeth yn rhannol oherwydd y risg o ddioddef “creulondeb” ar y cyfryngau cymdeithasol.

Natasha Asghar AoS yw’r pumed aelod o’r Senedd nad yw’n wyn yn y 22 mlynedd ers dechrau datganoli.

Cafodd ei hethol i gynrychioli Dwyrain De Cymru i’r Ceidwadwyr Cymreig yn yr etholiad yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r sedd ranbarthol yn un a oedd gynt yn nwylo ei thad, Mohammad Asghar, yr aelod cyntaf o’r Senedd o leiafrif ethnig pan gafodd yntau ei ethol yn 2007.

Bu Mr Asghar farw ym mis Mehefin 2020.

Dywedodd Ms Asghar ei bod hi a’i thad wedi derbyn camdriniaeth ar-lein am liw eu croen.

“Gwleidyddiaeth yn waith ansicr”

Dywedodd y cyn-gyflwynydd ar sianel QVC mai un o’i blaenoriaethau oedd annog pobl o gefndiroedd amrywiol i ymgymryd â swyddi yng ngwleidyddiaeth Cymru, a dywedodd ei bod yn deall pam nad yw pobl yn awyddus i wneud hynny.

“Does dim llawer o fenywod o liw mewn swyddi gwleidyddol yma yng Nghymru, na dynion chwaith.” meddai.

“Rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cael rhywun i gynrychioli’r gwahanol fathau o bobl yma.

“Ond mae gwleidyddiaeth yn waith ansicr. Rwy’n credu bod llawer o bobl o leiafrifoedd ethnig yn teimlo ei bod yn synhwyrol ac yn dda cael swydd sefydlog fel meddyg, deintydd, athro, cyfreithiwr, y gyrfaoedd confensiynol hyn.

“Mae’n rhaid i chi ymladd dros eich swydd bob pum mlynedd mewn gwleidyddiaeth, ac mae’r ansefydlogrwydd hwnnw sydd, os oes gennych dŷ, morgais, plant, yna efallai y byddai ychydig yn frawychus ymgymryd â’r cyfrifoldeb hwnnw.”

‘Ofni’r creulondeb’

Dywedodd Ms Asghar fod y cyfrifoldeb am greu cyfleoedd mewn bywyd cyhoeddus i leiafrifoedd yn nwylo gwleidyddion a’r cyfryngau, a bod angen iddynt helpu i leihau’r gamdriniaeth ar-lein.

“Rydyn ni’n aml yn gweld gwleidyddion yn cael eu beirniadu ar y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau [yn cyffredinol] am bolisïau, neu bethau maen nhw’n eu gwneud yn eu bywydau personol, ac rwy’n credu ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i geisio annog pobl i wneud gwleidyddiaeth yn yrfa y mae pobl ei heisiau,” meddai.

“Rwy’n credu bod llawer o bobl yn ofni’r creulondeb y mae pobl yn ei brofi ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae cymaint o wleidyddion yn cael eu trolio, maent yn cael bygythiadau o farwolaeth.

“Nid dyma’r swydd ddelfrydol y byddai rhai am fynd iddi oherwydd eu bod yn meddwl ‘pam ydw i eisiau’r cur pen?’

“Ond ar yr un pryd mae’r boddhad a gewch o helpu eraill y tu hwnt i’r ddealltwriaeth a gefais erioed gydag unrhyw beth arall.”

‘Rhyfelwyr bysellfwrdd’

Dywedodd fod ei diweddar dad, a ymunodd â’r Senedd fel aelod o Blaid Cymru cyn symud i’r Torïaid, wedi gorfod delio gydag “amser caled ar y naw” yn ystod ei gyfnod mewn gwleidyddiaeth.

“Fe oedd yr un cyntaf i newid pleidiau, fe oedd y dyn cyntaf o liw, a gwelais faint o gasineb a brofodd gan ryfelwyr bysellfwrdd, a’r loes a berodd hynny.”

Dywedodd Ms Asghar ei bod wedi dod i arfer â phobl yn gwneud sylwadau am ei phwysau a lliw ei chroen yn ystod dros 10 mlynedd fel cyflwynydd teledu, ac o ganlyniad “does dim byd yn effeithio arnaf mwyach”.

“Mae croen trwchus yn rhywbeth sy’n rhedeg yn y teulu, ac rwy’n sicr yn gobeithio y gallaf barhau â hynny am y pum mlynedd nesaf yn y Senedd.”