Mae ystadegau newydd yn awgrymu fod gan 63.2% o boblogaeth Cymru wrthgyrff Covid-19.
Os yw person yn cynhyrchu gwrthgyrff, mae’n debyg ei fod e naill ai wedi cael ei heintio yn y gorffennol neu wedi cael y brechlyn.
Mae’n cymryd rhwng pythefnos a thair wythnos i rywun sydd wedi cael ei heintio, neu wedi derbyn y brechlyn, ddechrau cynhyrchu digon o wrthgyrff i gwffio’r feirws.
Ar ôl hynny, mae lefel isel o wrthgyrff yn aros yn y gwaed er y gall y lefelau hyn ostwng dros amser nes nad ydyn nhw’n ymddangos ar brofion.
Dywedodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod yna batrwm clir rhwng cael eich brechu a derbyn prawf positif am wrthgyrff Covid-19 yng Nghymru, ond nad yw darganfod gwrthgyrff ar ben ei hun yn ddigon i ddweud faint o amddiffyniad mae’r brechlyn yn ei gynnig.
Yr ystadegau
Yng Nghymru, pobol dros 80 oed oedd fwyaf tebygol o fod â gwrthgyrff (90.4%), ac yna’r grŵp oedran 75 i 79 oed (87%).
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif fod gan 38% o bobol rhwng 16 a 24 oed wrthgyrff, ac mae’r ganran yn codi i 47% ymysg pobol rhwng 35 a 49 oed.
Yn ogystal, mae’r data yn manylu ar bobol o oedrannau unigol, gan awgrymu fod 20.4% o bobol 16 oed â gwrthgyrff, a 39.4% o bobol 25 oed.
Fodd bynnag, mae’r canrannau ar gyfer pobol 35 oed a 45 oed yn is – 30.9% a 36.1%.
Gan adlewyrchu blaenoriaethau’r rhaglen frechu, mae naid sylweddol yn y canrannau erbyn cyrraedd pobol yn eu 50au, gydag amcangyfrif o 78% o bobol 55 oed yn cynhyrchu gwrthgyrff.
Mae’n codi eto wedyn erbyn cyrraedd pobol 75 oed gyda chanran o 83.9%, ac yna 81.7% ar gyfer pobol 85 oed.
Yn ogystal, mae’r data hefyd yn dangos fod gan 66.4% o ferched yng Nghymru wrthgyrff, o gymharu â 59.7% o ddynion.
“Effaith y rhaglen frechu”
Nid yw arbenigwyr yn gwybod am ba mor hir mae gwrthgyrff Covid-19 yn aros yn y corff, ac nid yw’n bosib gwybod eto a ydy cael gwrthgyrff yn effeithio ar y siawns o gael Covid-19 am yr eildro.
“Mae effaith y rhaglen frechu yn glir wrth i lefelau gwrthgyrff barhau’n uchel dros y Deyrnas Unedig,” meddai Sarah Crofts, Uwch Ystadegydd yr arolwg Achosion Covid-19.
“Byddwn ni’n parhau i asesu sut mae lefelau gwrthgyrff yn newid wrth i reolau gael eu llacio, ac wrth i bobol dderbyn brechlynnau.”
Mae amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn seiliedig ar bobol mewn cartrefi preifat, a gafodd eu profi yn yr wythnos yn dechrau Ebrill 19.