Ar ôl degawdau o anwybyddu llwyddiannau yng Nghymru, mae’r Blaid Lafur yn Lloegr yn dechrau talu sylw i gyraeddiadau ei chymrodyr Cymreig.
Dyna farn Meic Birtwistle, newyddiadurwr a fu ynghlwm â rhedeg ymgyrch Jeremy Corbyn, cyn-Arweinydd Llafur, yng Nghymru rai blynyddoedd yn ôl.
Ar Fai 6 mi gynhaliwyd llu o etholiadau ledled y Deyrnas Unedig ac mi brofodd y Blaid Lafur gymysgedd o lwyddiant a methiant.
Heb os, fe wnaeth y blaid brofi etholiad da yng Nghymru, ond mi roedd pethau’n llawer fwy llwm iddi yn Lloegr, ac ar hynny mae’r wasg Lundeinig wedi bod yn canolbwyntio arno, wrth gwrs.
Mae Meic Birtwistle yn teimlo bod Llafurwyr Lloegr hefyd wedi troi llygad ddall i lwyddiannau Llafur Cymru, ond mae’n synhwyro bod hynny’n dechrau newid.
“Yn amlwg yng Nghymru mae pethau wedi mynd yn arbennig o dda,” meddai wrth golwg360. “A buaswn i’n dadlau ei fod yn dangos y ffordd ymlaen.
“Does dim llawer o sôn wedi bod am y ffaith bod y Blaid Lafur yng Nghymru wedi bod yn llawer mwy radicalaidd na’r blaid yn Lloegr yn ddiweddar.
“Yr wythnos yma mae pobol fel Mick Antoniw a Mike Hedges wedi bod yn sgwennu erthyglau yn y Morning Star, Tribune a Labour List, jest yn pwysleisio pa mor bwysig mae dysgu gwersi o lwyddiannau Cymru,” atega.
“Dw i’n credu bod rhyw fath o ddihuniad wedi bod yn y Blaid Lafur yn Lloegr. Ond ddim yn ddigonol. Dw i’n derbyn dyw e’ ddim yn ddigon. Ond mae e’n dechrau dod. Maen nhw yn dechrau sylweddoli.”
Etholiadau cymysg
Mi gafodd Llafur gweir yn isetholiad Hartlepool yng ngogledd Ddwyrain Lloegr, ac roedd etholiadau lleol Lloegr yn ergyd iddi hefyd (collwyd 327 o gynghorwyr, a rheolaeth tros wyth cyngor).
Er hynny, fe wnaeth Andy Burnham gadw ei swydd yn Faer Manceinion (gan gynyddu lefel y gefnogaeth tuag ato) ac mi wnaeth Sadiq Khan gadw ei afael ar rôl Maer Llundain.
Yng Nghymru, cynyddodd nifer seddi Llafur Cymru o 29 i 30, ac mi enillwyd sawl sedd â mwyafrifoedd swmpus iawn.
“Dw i ddim yn credu bod pethau cynddrwg ac mae rhai pobol wedi bod yn paentio pethau,” meddai Meic Birtwistle wrth fyfyrio ar y canlyniadau yma.
Lle nesa’ i Lafur?
Mae cwestiynau bellach wedi codi ynghylch pa wersi ddylai’r blaid ddysgu o’r canlyniadau yma, ac i ba gyfeiriad y dylai hi fynd yn awr.
Mae Andy Burnham wedi cyhuddo’r blaid o ganolbwyntio’n ormodol ar Lundain, tra bod Tony Blair, y cyn-Brif Weinidog, yn mynnu bod y blaid yn poeni’n ormodol am fod yn woke (yn fras, hynod flaengar).
Mae Carwyn Jones, cyn Brif-Weinidog Cymru, wedi awgrymu bod angen iddi fod yn fwy blaengar, tra bod John McDonnell, cyfaill agos i Jeremy Corbyn, yn dweud bod angen bod yn fwy radical.
“Buaswn i wrth gwrs yn dueddol o gytuno gyda John McDonnell – mai beth sydd angen yw ein bod ni’n dal i gynnig atebion sosialaidd i’n problemau ni,” meddai Meic Birtwistle.
“Un esiampl yw’r ffaith bod Jeremy Corbyn a John McDonnell wedi bod yn awyddus iawn i gyflwyno band eang yn rhad ac am ddim ar draws y wlad.”
Mae’r newyddiadurwr yn derbyn bod “llais gwladgarol” Llafur Cymru yn “apelio” i bobol yn y wlad hon, ond mae’n nodi bod “‘gwladgarol’ yn air sy’n golygu gwahanol bethau mewn gwahanol lefydd”.
Tony Blair yn ôl ar y sîn?
Mewn darn i The New Statesman mae Tony Blair wedi rhannu, yn gwbl blaen, ei farn yntau ynghylch i ba gyfeiriad y mae’n rhaid llywio’r blaid.
“Heb newid llwyr mi fydd Llafur yn marw,” yw enw’r darn, ac mae’n teimlo bod Keir Starmer, yr arweinydd presennol, yn cael ei ddylanwadu’n ormodol gan y “chwith woke”.
Mae’r darn wedi peri i rai gwestiynu a yw Tony Blair yn llygadu rôl flaenllaw unwaith eto… Tybed a fyddai Llafur yn elwa pe bai’r hen do yn dychwelyd i’r brig?
“Na,” meddai Meic Birtwistle. “Dw i’n credu ein bod ni wedi symud ymlaen. Mae’r Blaid Lafur yn eglwys eang. Dyna beth yw ein cryfder. Mae’n achosi problemau. Ond, ie, mae eisiau symud ymlaen.
“Mae’n rhaid cael trafodaeth am y dyfodol. Ac fel rhan o hynny mae angen cael sgyrsiau eitha’ trwyadl, ac eitha’ lletchwith weithiau. Ond mae’n rhaid symud ymlaen.
“Dyw troi yn ôl at unigolion, fel hynna, ddim yn gwneud synnwyr. Ond mae cael trafodaeth am y syniadau yn rhywbeth ar wahân. Ac mae’n rhaid i hynny ddigwydd.”