Bydd David Cameron yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol ynghylch ei weithgareddau lobïo ar gyfer y cwmni cyllid Greensill Capital.

Mae’r cyn-brif weinidog yn ymddangos mewn gwrandawiadau gan Drysorlys Tŷ’r Cyffredin a phwyllgorau Cyfrifon Cyhoeddus.

Ddydd Mawrth (Mai 12) rhyddhaodd Pwyllgor y Trysorlys ddwsinau o negeseuon testun ac e-byst a anfonodd David Cameron at weinidogion ac uwch swyddogion yn apelio am eu cymorth i gael mynediad i raglenni cymorth covid y Llywodraeth.

Roeddent yn cynnwys negeseuon i’r Canghellor Rishi Sunak a gweinidog Swyddfa’r Cabinet Michael Gove, ac uwch swyddogion yn y Trysorlys a Banc Lloegr, yn ogystal â galwad i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock.

Mae David Cameron wedi mynnu nad oedd ei weithgareddau lobïo, ar ôl ymuno â’r cwmni fel cynghorydd, wedi torri unrhyw reolau, er ei fod wedi derbyn bod “gwersi i’w dysgu”.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi dweud bod ceisiadau Greensill wedi’u trin yn briodol a’u bod wedi’u gwrthod yn y pen draw.

Fodd bynnag, bu beirniadaeth o sut y gallai cyn-brif weinidog fanteisio ar ei gysylltiadau personol â chyn-gydweithwyr a swyddogion wrth geisio sicrhau mantais fasnachol.

Mewn un neges i’r Canghellor, Rishi Sunak, cwynodd David Cameron fod gwrthwynebiadau’r Trysorlys i gais Greensill yn “wallgof”, gan ychwanegu: “Dw i’n meddwl bod camddealltwriaeth syml y gallaf ei esbonio.”

Mewn sgwrs gyda Michael Gove, dywedodd y cyn-brif weinidog: “Rwyf yn siarad â Rishi y peth cyntaf yfory. Os ydw i’n dal i fod yn sownd, alla i dy ffonio bryd hynny?”

“Wrth gwrs! Unrhyw bryd,” ymatebodd Michael Gove.

Yn y cyfamser, mae corff gwarchod y Ddinas wedi dweud ei fod yn lansio ymchwiliad ffurfiol i gwymp Greensill.

Dywedodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol fod rhai o’r honiadau a wnaed am y cwmni “o bosibl yn droseddol eu natur”.

Roedd Greensill yn gysylltiedig â chwmni GFG – perchennog trydydd gwneuthurwr dur mwyaf yn y Deyrnas Unedig, Liberty Steel – ac mae ei fethiant wedi peryglu miloedd o swyddi.

Wrth ymddangos gerbron Pwyllgor y Trysorlys ddydd Mawrth (Mai 11), dywedodd sylfaenydd y cwmni, Lex Greensill, ei fod yn “wirioneddol flin” a’i fod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am yr hyn a ddigwyddodd.

Mewn llythyr at y pwyllgor, dywedodd David Cameron ei fod wedi dechrau pryderu y gallai’r cwmni fod mewn trafferthion ariannol difrifol ym mis Rhagfyr y llynedd.

“Hyd at y pwynt hwnnw, roeddwn i’n credu’n gryf bod Greensill mewn iechyd ariannol da,” meddai.