Mae gweithwyr gwasanaethau brys yng Nghymru yn gofyn i bobol weithio gyda nhw, nid yn eu herbyn nhw, ar ôl cynnydd mewn ymosodiadau yn eu herbyn.

Dangosa data newydd fod mwy na 4,240 o ymosodiadau yn erbyn gweithwyr gwasanaethau brys rhwng Ebrill 2019 a Thachwedd 2020.

Roedd yr ymosodiadau yn erbyn heddlu, criwiau tân ac ambiwlans yn amrywio o gicio, dyrnu a tharo pennau i boeri, hitio, brathu, a cham-drin geiriol.

Digwyddodd mwy na hanner (58%) o’r digwyddiad yn y De Ddwyrain, a chafodd dros draean ohonyn nhw (37%) eu cyflawni gan bobol dan ddylanwad alcohol.

Wrth i dafarndai ailagor tu mewn ddydd Llun (Mai 17), mae gweithwyr brys wedi dechrau ymgyrch yn gofyn i’r cyhoedd eu trin â pharch.

Mae’r gwasanaeth ambiwlans, criwiau tân, yr heddlu, a’r Gwasanaeth Iechyd yn cefnogi’r ymgyrch.

“Eich newid chi”

Bu 629 (15%) o’r ymosodiadau dros yr 20 mis ar staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn cynnwys ymosodiadau ar barafeddygon a staff ystafell reoli.

Fe wnaeth claf ymosod ar y Parafeddyg Darren Lloyd ym Mangor ym mis Ebrill 2016, a chafodd y dyn ei garcharu am 16 wythnos o ganlyniad i’r ymosodiad.

“Roeddem ni wedi cael ein galw at ddyn y dywedwyd ei fod wedi cymryd gorddos, felly fe wnaethom ni roi gwrthgyffur iddo i geisio ei adfywio. Pan ddaeth ato ei hun fe wnaeth fy nyrnu i ddwywaith. Cefais fy nal yn ddiarwybod, doeddwn i ddim yn barod am hynny,” meddai Darren Lloyd wrth ddweud fod y dyn wedi ymosod arno’n eiriol hefyd.

“Mae cleifion yn ymddiried ynoch chi ac rydym ni’n rhoi ein hymddiriedaeth yn ein cleifion, felly pan fo rhywbeth fel hyn yn digwydd, mae’n eich taflu oddi ar eich echel.

“Mae’n gwneud i chi deimlo’n betrus ac mae’n eich newid chi. Mae’n eich gwneud chi’n orymwybodol ar alwadau eraill hefyd, ac rydych chi’n cwestiynu popeth llawer mwy.

“Rydych chi’n cwestiynu pam y gwnaeth ddigwydd a beth wnaethoch chi o’i le.”

“Wedi aros efo fi”

Mewn digwyddiad arall ym Mhorthmadog ym mis Mai 2019, ymosodwyd ar y Dechnegydd Meddygol Brys gan glaf a gafodd ei garcharu’n ddiweddarach am chwe mis.

“Cefais fy nal yn erbyn cornel tu mewn ambiwlans gan glaf oedd wedi meddwl, ac roedd rhaid i fy nghydweithiwr ac aelod o’r cyhoedd ei lusgo oddi arna’ i,” meddai’r fam i dri o blant nad oedd am gael ei henwi.

“Roedd o’n gweiddi yn fy wyneb i, fy nghicio i ac yn fy ngham-drin yn eiriol.

“Yn y cyfamser, daeth galwad ‘Coch’ brys ar gyfer babi a oedd wedi mynd yn sâl felly roedd rhaid i ni adael.

“Doeddwn i ddim yn meddwl fod y digwyddiad wedi effeithio arna’ i ar y pryd, ond ychydig o wythnosau yn ddiweddarach, pan aeth claf arall i dymer, fe wnes i fynd oddi ar yr ambiwlans a dechrau crïo,” esboniodd.

“Fe welais i o yn y stryd pan ddaeth o allan o’r carchar ac roedd fy nghalon i yn fy ngwddf.

“Mae’n ddwy flynedd yn ddiweddarach erbyn hyn, ond mae’r hyn a ddigwyddodd wedi aros efo fi.

“Y peth cyntaf rydw i’n ei wneud pan ydw i’n mynd i mewn i dŷ claf ydi chwilio am yr allanfeydd.”

Trosedd

“Mae gwasanaethau brys ar draws Cymru wedi ymrwymo i wneud y cyfan y medrwn ni i wasanaethu’r cyhoedd,” ychwanegodd Pam Kelly, Prif Gwnstabl Heddlu Gwent.

“Yr unig ffordd y medrwn ni wneud ein swyddi’n effeithiol yw os ydi pobol yn gweithio gyda ni ac nid yn ein herbyn ni.

“Gydag ymosodiadau ar weithwyr gwasanaethau brys yn parhau i gynyddu, rydym ni’n apelio ac yn mynnu rhoi diwedd ar ymddygiad o’r fath.

“Rydw i wedi gweld yn rhy aml yr effaith mae’r ymosodiadau hyn yn eu cael ar swyddogion yr heddlu a gweithwyr gwasanaethau brys eraill wrth iddyn nhw gyflawni eu dyletswydd i helpu’r rhai mewn angen.

“Mae’n bwysig cofio, o dan unrhyw fath o wisg gwasanaeth brys, mae unigolyn efo ffrindiau, teulu, ac anwyliaid.

“Mae ymosodiad ar weithiwr gwasanaethau brys yn drosedd, p’un ai’n ymosodiad corfforol neu eiriol, ac ni fydd yn cael ei oddef.”

“Ddim yn meddwl dwywaith” cyn cam-drin staff

Dywedodd Simon Smith, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod nhw hefyd “yn ychwanegu eu llais i’r apêl hon”.

“Mae mwyafrif helaeth y bobol yn sylweddoli pwysigrwydd cefnogi’r gwasanaeth tân ac achub tra’u bod yn ymateb i’r ystod o argyfyngau sy’n rhoi pobol, cymunedau, bywoliaethau, a’r amgylchedd mewn perygl.

“Yn drist iawn, fodd bynnag, mae ychydig o bobol nad ydynt yn meddwl ddwywaith am gam-drin ein staff yn eiriol neu ymosod ar griwiau wrth iddyn nhw weithio.

“Ni ddylai unrhyw un ddisgwyl cael ymosodiadau arnyn nhw tra’n ceisio achub bywyd pobol eraill mewn argyfwng.”