Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi addo gwneud popeth o fewn ei allu i frwydro yn erbyn troseddau ar-lein.

Roedd Andy Dunbobbin, 46 oed, yn siarad heddiw (dydd Iau, Mai 13) ar ei ddiwrnod swyddogol cyntaf yn y rôl ar ôl olynu Arfon Jones yn y swydd.

Ac yntau’n cynrychioli’r Blaid Lafur, mae hefyd wedi addo cynrychioli pawb yng ngogledd Cymru, waeth beth fo’u hymlyniad gwleidyddol.

“Gwella cymunedau”

“Fy rheswm dros sefyll i ddod yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru oedd fy mod yn gwybod pa mor bwysig yw cadw teuluoedd a chymunedau yn ddiogel,” meddai.

“Mae’n wirioneddol bwysig i bobl pa mor ddiogel ydyn nhw.

“Mae cymaint o ddylanwad y gall y rôl hon ei gael wrth wella ein cymunedau.

“Bydd fy maniffesto yn gosod sail i’m cynllun am y tair blynedd nesaf i ddarparu cyfeiriad strategol Heddlu Gogledd Cymru a dyna beth y byddaf yn cael ei fesur yn ei erbyn.

“Nid dim ond ar y strydoedd y mae troseddu yn digwydd bellach, mae hefyd yn digwydd ar-lein ac mae hynny’n her enfawr i’r heddlu.

Addewid i fynd i’r afael â throseddwyr ar-lein

“Mae troseddu ar-lein yn amlygu ei hun mewn cymaint o wahanol ffyrdd, yn amrywio o dwyll i gam-fanteisio rhywiol a throseddau casineb.

“Mae’r troseddwyr yn dod yn fwy soffistigedig yn ddyddiol bron, ac mae’n hanfodol bod yr heddlu hefyd yn parhau i fod yn fwy medrus wrth ddefnyddio technoleg.

“Oherwydd fy nghefndir, rwyf wedi arfer defnyddio pecynnau meddalwedd ac offer soffistigedig iawn.

“Rhaid i ni fuddsoddi i sicrhau bod gan Heddlu Gogledd Cymru’r dechnoleg ddiweddaraf i frwydro yn erbyn troseddwyr ar-lein.

“Rydym am sicrhau bod technoleg yr heddlu yn ddigon da ar gyfer y dyfodol a sicrhau mwy o werth am arian.”

“Buddsoddi mewn gwasanaethau dioddefwyr”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynyddu nifer Swyddogion Cefnogi Cymuned yr Heddlu yng Nghymru o 500 i 600.

“Byddaf yn cael sgyrsiau i sicrhau bod gogledd Cymru yn cael ei chyfran deg.

“Rhywbeth arall rwy’n teimlo’n gryf yn ei gylch yw buddsoddi mewn gwasanaethau dioddefwyr, gan gynnwys sefydlu panel ‘dioddefwyr’.

“Rwyf am roi llais i ddioddefwyr er mwyn rhoi cyfle i ddioddefwyr a goroeswyr ddweud wrthym beth y gellir ei wneud yn well.

“Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod ledled y Deyrnas Unedig am y gwelliannau sylweddol maen nhw wedi’u gwneud o ran plismona cefn gwlad ac mae hyn yn rhywbeth rydw i eisiau adeiladu arno.”