Bydd trenau gyda chraciau ynddyn nhw’n dychwelyd i’r cledrau ar ôl i’r diwydiant rheilffyrdd ddweud nad yw’r diffygion yn achosi unrhyw beryglon diogelwch.

Cafodd nifer o wasanaethau eu heffeithio ar ôl i’r craciau gael eu darganfod ddydd Sadwrn (Mai 8), gan gynnwys gwasanaethau rhwng Caerdydd, Abertawe, a Llundain.

Mae Hitachi, gweithredwyr trenau, a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cytuno ar gynllun i ailgyflwyno mwy o’r trenau.

Dywedodd y Grŵp Rail Delivery (RDG) fod peirianwyr ac arbenigwyr annibynnol wedi “cwblhau profion ac ymchwil manwl” er mwyn cael “dealltwriaeth glir o’r craciau”.

Dywedodd ffynhonnell o’r diwydiant wrth wasanaeth newyddion PA fod yr ymchwiliad wedi dod i’r canlyniad nad yw’r craciau’n stopio’r trenau rhag teithio’n ddiogel.

Yn ôl yr RDG, bydd y trenau ond yn dychwelyd i’r cledrau ar ôl “ymchwiliadau trylwyr gan dimau arbenigol”.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd Rheilffordd y London North Eastern a Rheilffordd y Great Western yn gallu cynnig mwy o wasanaethau eto.

Gallai amhariadau i wasanaethau trên barhau am ddyddiau ar ôl i graciau gael eu darganfod mewn cerbydau

Mae gwasanaeth y Great Western rhwng Abertawe a Llundain ymhlith y rhai sydd wedi’u heffeithio