Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd ei chanolfannau hamdden yn aros ynghau am ddau fis arall.
Dywed y cyngor eu bod yn aros ar gau er mwyn lleihau’r risg o gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal.
Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn cael ei defnyddio fel Canolfan Frechu Torfol ar hyn o bryd, a bydd yn parhau felly tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei angen.
Fodd bynnag, mae canolfannau Hamdden Aberaeron a Llambed yn rhydd.
Mae disgwyl i ddosbarthiadau awyr agored, caeau chwarae a chaeau pob tywydd ailagor ddiwedd y mis.
Ceredigion yw un o’r ardaloedd sydd â’r gyfradd isaf o ran y feirws, ac mae penderfyniad y cyngor wedi achosi rhwystredigaeth ymhlith rhai.
Mae Ben Lake, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, wedi galw ar y cyngor i newid eu cynlluniau.
“Hwyrach na’r disgwyl”
“Rydym yn cydnabod y gallai’r dyddiadau a ddarperir fod yn hwyrach na’r disgwyl,” meddai Cyngor Sir Ceredigion mewn datganiad.
“Fodd bynnag, maent wedi’u pennu er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i leihau’r risg o unrhyw gynnydd mewn achosion ac i wneud ein rhan yn adferiad ein sir o’r coronafeirws.
“Mae’r dyddiadau hefyd yn sicrhau bod staff a roddwyd ar secondiad i gefnogi gwasanaethau eraill y Cyngor yn ystod y pandemig yn gallu dychwelyd i’w swyddi o fewn Gwasanaeth y Canolfannau Lles.”
“Angen meddwl am yr effeithiau iechyd tymor hir”
“Os oes yna un peth y mae’r flwyddyn a mwy diwethaf wedi dangos i ni, wel, pwysigrwydd cadw’n heini ydi hynny,” meddai Owain Schiavone wrth raglen ‘Dros Frecwast’ BBC Radio Cymru.
“Dw i yn teimlo dros blant yn enwedig mewn tref glan môr fel Aberystwyth bod yna ddim gwersi nofio, dim cyfle iddyn nhw ymarfer nofio wedi bod ers dros flwyddyn.
“Dw i’n meddwl bod yno beryglon ynghlwm â hynny wrth gwrs – dydy nofio yn y môr ddim bob amser yn ddiogel, felly mae ’na rywbeth mawr, pwysig yn cael ei golli fan hyn.
“Dw i’n derbyn bod y feirws yn lledu lot haws o dan do, ond mae ’na bwynt yn cyrraedd lle mae angen meddwl am yr effeithiau iechyd tymor hir.”