Mae Israel wedi cynnal ymosodiad milwrol ar Lain Gaza, gan ladd hyd at 10 o aelodau milwrol blaenllaw Hamas.
Mae awyrennau milwrol hefyd wedi difrodi dau adeilad oedd yn perthyn i Hamas, mewn ymosodiadau o’r awyr.
Yn y cyfamser mae’r grŵp milwriaethus Islamaidd wedi tanio cannoedd o rocedi at ddinasoedd Israel.
Roedd Israel wedi cynnal nifer o ymosodiadau o’r awyr ar doriad gwawr gan daro dwsinau o dargedau o fewn rhai munudau, gan achosi ffrwydradau ar draws Gaza.
Roedd yr ymosodiadau wedi parhau drwy’r dydd. Gyda’r nos roedd strydoedd dinas Gaza yn wag wrth i bobl aros yn eu cartrefi, ar noson olaf mis Ramadan.
Fel arfer mae’n noson o ddathlu gwyliau Eid al-Fitr, gyda’r strydoedd a’r bwytai’n llawn.
Tra bod y Cenhedloedd Unedig a swyddogion Aifft wedi dweud bod ymdrechion ar y gweill i gael cadoediad, does dim arwydd o gynnydd hyd yn hyn.
Fe ddechreuodd y trais yn Jerwsalem fis yn ôl, ar ôl gwrthdaro gyda heddlu Israel yn ystod Ramadan.