Mae ditectifs sy’n chwilio am lanc 18 oed sydd ar goll wedi apelio ar unrhyw un oedd wedi bod i rêf mewn hen chwarel yn Waunfawr yng Ngwynedd i gysylltu â nhw.

Cafodd Frantisek Morris, sy’n cael ei adnabod fel Frankie, ei weld diwethaf yn cerdded ym Mhentir, ger Bangor tua 1.20om ar ddydd Sul, Mai 2.

Roedd wedi bod mewn parti yn Waunfawr y noson cyn iddo ddiflannu.

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi rhyddhau llun ohono yn cerdded heibio tafarn y Vaynol Arms ym Mhentir tua’r adeg y cafodd ei weld ddiwethaf.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r gymuned am y cannoedd o alwadau ffôn ac adroddiadau ar-lein ry’n ni wedi eu derbyn mewn ymateb i’n hapeliadau blaenorol. O ganlyniad ry’n ni’n edrych ar sawl gwahanol drywydd.

“Hoffwn apelio’n uniongyrchol i unrhyw un oedd wedi mynychu ref mewn hen chwarel ger Waunfawr ar ddydd Sadwrn, Mai 1 i gysylltu â ni os nad ydyn nhw wedi gwneud yn barod.

“Dwi’n deall efallai bod pobl ddim yn awyddus i wneud hynny gan nad oedd y ref yn ddigwyddiad oedd wedi cael ei drefnu ond hoffwn wich sicrhau mai ein prif gonsyrn yw ceisio cael cymaint o wybodaeth ag y gallwn ni am symudiadau Frankie.”

Mae’n apelio ar unrhyw un oedd yn y ref i anfon lluniau neud fideos o’u ffonau symudol, neu unrhyw wybodaeth at https://mipp.police.uk/operation/60NWP19A03-PO1.

Mae modd anfon y wybodaeth a’r lluniau’n anhysbys.

Yn y cyfamser mae rhagor o swyddogion yr heddlu wedi bod ar batrôl ym Mhentir dros y dyddiau diwethaf a dywed y Ditectif Brif Arolygydd Lee Boycott y bydd hynny’n parhau.

Mae’n apelio ar bobl i edrych mewn siediau neu adeiladau ar eu tir ac i gysylltu â nhw os oes rhywbeth anarferol.