Mae disgwyl i Mark Drakeford ad-drefnu ei gabinet heddiw (Mai 13) ar ôl iddo gael ei ail-enwebu fel Prif Weinidog Cymru ddydd Mercher.
Mae disgwyl rhai newidiadau – er enghraifft, bydd yn rhaid iddo benodi gweinidog addysg newydd wedi i’r Democrat Rhyddfrydol Kirsty Williams, gamu o’r rôl cyn yr etholiad.
Mae disgwyl i’r cabinet newydd gyfarfod yn fuan ar ôl cael ei ffurfio i gwblhau’r adolygiad o gyfyngiadau’r coronafeirws.
Nid yw’n debygol y bydd gwleidyddion o bleidiau eraill yn rhan o’i gabinet newydd gan fod Llafur yn bwriadu llywodraethu ar ei phen ei hun, er ei bod un yn brin o fwyafrif.
Gall Mark Drakeford enwi hyd at 14 o Aelodau o’r Senedd yn ei gabinet.
Daw hyn ar ôl iddo gael ei gadarnhau fel enwebai Senedd Cymru ar gyfer rôl Prif Weinidog Cymru ddoe (dydd Mercher 12 Mai), gallwch ddarllen mwy am hynny isod.
Enwebu Mark Drakeford fel Prif Weinidog Cymru
Tyngu llw
Fore heddiw, cafodd Mark Drakeford ei gadarnhau’n swyddogol fel Prif Weinidog Cymru gan farnwr llywyddol Cymru, Mr Ustus Simon Picken, yn adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays.
Yn ystod seremoni fer, tyngodd Mr Drakeford lw y byddai’n “gwasanaethu Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth yr Ail yn swydd Prif Weinidog Cymru”.
Mae arweinydd Llafur Cymru wedi dweud y bydd yn parhau yn y rôl nes ei throsglwyddo i olynydd tua diwedd tymor pum mlynedd y senedd newydd.
Yn dilyn ei enwebiad llwyddiannus ddoe, dywedodd Mark Drakeford wrth yr aelodau y byddai ei Lywodraeth yn arwain “mewn ffordd sy’n ceisio consensws” gan bleidiau eraill, ac addawodd fynd i’r afael â materion fel yr amgylchedd, incwm sylfaenol, a thai fforddiadwy mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith.
“Byddaf yn arwain llywodraeth Lafur Cymru, ond byddwn yn llywodraethu mewn ffordd sy’n ceisio consensws ac a fydd yn ystyried syniadau newydd a beiddgar o ble bynnag y daw’r syniadau hynny,” meddai.
“Syniadau a all arwain at ddyfodol gwell i bobol Cymru, o coronafeirws i aer glân, o incwm sylfaenol cyffredinol i sicrhau nad yw pobl ifanc yn cael eu prisio allan o gymunedau Cymraeg eu hiaith.
“Bydd hon yn llywodraeth sy’n gwrando ac yn cydweithio ag eraill lle mae tir cyffredin i’w ganfod rhyngom.”
“Parhau i fynd i’r afael â’r coronafeirws”
Dywedodd y byddai Covid-19 yn cael ei daclo mewn “ffordd ofalus”, gan rybuddio bod y wlad “yn dal yng nghanol pandemig sydd wedi bwrw cysgod mor dywyll dros ein bywydau.”
“Mae wedi ymestyn ein gwasanaeth iechyd a’r bobol oddi mewn iddo. Mae wedi niweidio bywydau ac wedi effeithio ar fywoliaeth pobol,” meddai.
“Bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fynd i’r afael â’r coronafeirws yn y ffordd ofalus yr ydym wedi gwneud hynny hyd yma drwy ddilyn y wyddoniaeth a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
“Byddwn yn arwain Cymru at adferiad a fydd yn dod â Chymru i adferiad tecach a gwyrddach i bawb. Ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl, ac ni fydd neb yn cael ei ddal yn ôl.”
“Sefyll dros Gymru”
Dywedodd Mark Drakeford hefyd y byddai Cymru yn “gweithio mewn partneriaeth” gyda llywodraethau o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig.
“Fy ngwaith i yw sefyll dros Gymru ac ni fyddaf byth yn sefyll yn ôl rhag gwneud hynny pan fydd yr angen yn codi,” meddai.
“Ond fy man cychwyn fydd arwain llywodraeth sy’n bartner adeiladol, ymgysylltiedig a chadarnhaol i ymateb i’r heriau hynny nad ydynt, ac nad ydynt erioed wedi dod i ben ar ein ffiniau.”
Andrew RT Davies yn addo bod yn “wrthblaid adeiladol”
Llongyfarchodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Mark Drakeford ac addawodd y byddai ei blaid yn “wrthblaid adeiladol”.
Dywedodd: “Bydd gwahaniaethau rhyngom. Ond mae meysydd lle byddwn yn gallu gweithio.”
Ychwanegodd: “Rydym yn rhoi ein hymrwymiad fel gwrthwynebiad i weithio’n adeiladol lle gallwn, ond byddwn yn cyflawni ein dyletswydd fel gwrthwynebiad i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif am ei gweithredoedd a cheisio gwella deddfwriaeth lle gallwn.”
Galwodd Andrew RT Davies hefyd am eglurhad am ddatblygiad ymchwiliad Covid-19 Cymru ei hun.