A hithau’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu agwedd newydd at ddeall ein lles.
Mae’r gallu i gysylltu â phobol, a meithrin ymdeimlad o berthyn, yn anghenion dynol sylfaenol; ond mae ymchwil gan yr Athro Andrew Kemp yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael ymagwedd ehangach at les.
Yn ôl ymchwil y seicolegydd, gall materion megis anghydraddoldeb, a newidiadau i’r hinsawdd sy’n cael eu hachosi gan y ddynol ryw, ddylanwadu ar les.
Bu’r Athro Andrew Kemp o Brifysgol Abertawe yn gweithio gyda Jess Mead, sy’n fyfyriwr PHD, a’r seicolegydd clinigol ymgynghorol, Dr Zoe Fisher, ar yr astudiaeth.
Yn ôl yr ymchwilwyr, mae canfyddiadau’r astudiaeth yn arbennig o berthnasol wrth i gymdeithas geisio adfywio a dysgu gwersi ar ôl y pandemig.
Mae’r ymchwil yn datgelu manteision cysylltu ag eraill, ein hunain, a byd natur o ran iechyd a lles, yn ogystal â phwysleisio fod angen canolbwyntio ar fynd i’r afael â materion cymdeithasol mawr sy’n effeithio ar ein gallu i gysylltu ag eraill.
“Colli cysylltiad â natur”
“Rydym yn diffinio lles fel profiad seicolegol cadarnhaol, wedi’i hyrwyddo gan gysylltiadau personol, cymunedol ac amgylcheddol, ac mae ffactorau cyd-destunol cymdeithasol sydd y tu hwnt i reolaeth yr unigolyn yn effeithio ar y cwbl,” meddai’r Athro Andrew Kemp.
“Mae ein fframwaith eisoes wedi cyfrannu at ddealltwriaeth well ynghylch sut i ddiogelu lles yn ystod y pandemig ac mae wedi arwain at ddatblygu dull ymyrryd gwyddonol blaengar, ar gyfer myfyrwyr prifysgol a phobl sydd wedi cael anaf i’w hymennydd.”
Mae’r ymchwilwyr yn teimlo fod y gwaith yn “cyd-fynd â dyfodol wedi’r pandemig lle bydd yn rhaid trawsnewid ein cymdeithas, gan ystyried ymdrechion byd-eang i hyrwyddo lles y blaned hefyd”.
“Oherwydd globaleiddio, trefoli, a gwelliannau technolegol, mae pobol wedi colli cysylltiad â natur yn fwyfwy. Mae’r broses hon yn parhau er bod gwaith ymchwil yn dangos bod cysylltu â natur yn gwella lles.
“Mae heriau cymdeithasol mawr yn effeithio’n anghymesur ar y bobol dlotaf, gan gynnwys cynyddu baich clefydau cronig, unigrwydd cymdeithasol, a newid anthropogenig yn yr hinsawdd,” ychwanegodd.
“Mae anghydraddoldeb economaidd yn effeithio’n niweidiol ar y boblogaeth gyfan, nid pobl dlawd yn unig, felly mae lleihau anghydraddoldeb economaidd yn hollbwysig er mwyn gwella lles y boblogaeth.”
Gallwch ddarllen mwy am yr ymchwil yma.