Bydd Llywodraeth Prydain yn sefydlu ymchwiliad cyhoeddus annibynnol gyda phwerau statudol i bandemig coronafeirws, meddai Boris Johnson heddiw (dydd Mercher 12 Mai).

Bydd yr ymchwiliad yn gallu cymryd tystiolaeth lafar ar lw, meddai, gan ychwanegu bod gan y wladwriaeth ddyletswydd “i ddysgu pob gwers ar gyfer y dyfodol”.

Dywedodd Mr Johnson fod yn rhaid i’r ymchwiliad edrych ar ddigwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf a nodi’r materion allweddol a fydd yn gwneud gwahaniaeth ar gyfer y dyfodol.

“Cael yr atebion y mae pobl y wlad hon yn eu haeddu”

“Dyna’r ffordd iawn, rwy’n meddwl, i gael yr atebion y mae pobl y wlad hon yn eu haeddu ac i sicrhau bod ein Teyrnas Unedig yn fwy parod ar gyfer unrhyw bandemig yn y dyfodol,” meddai Mr Johnson.

Nododd Downing Street y byddai Mr Johnson yn fodlon rhoi tystiolaeth ar lw pe gofynnid iddo, gyda llefarydd swyddogol y Prif Weinidog yn dweud y bydd yn cydymffurfio â’r hyn sy’n ofynnol ar gyfer yr ymchwiliad.

Amddiffynnodd rhif 10 amserlen yr ymchwiliad hefyd, gan ddweud bod “angen llawer iawn o amser y Llywodraeth ar y mathau hyn o ymchwiliadau gyda swyddogion sy’n gweithio ar ein hymateb i Covid ar hyn o bryd”.

Cadarnhaodd y llefarydd fod adolygiad “anffurfiol” o’r ymateb i’r coronafeirws wedi’i gynnal ond gwrthododd ddweud a fyddai’n cael ei gyhoeddi.

Mae’r grŵp seneddol hollbleidiol (APPG) ar y coronafeirws wedi annog y Llywodraeth i ryddhau’r canfyddiadau.

Dywedodd Clive Lewis, is-gadeirydd y grŵp: “Mae’n rhaid i’r Llywodraeth fod yn glir a chyhoeddi’r adolygiad hwn ar unwaith er mwyn osgoi cyhuddiadau o guddio.”Golau’r haul yw’r diheintydd gorau, ac nid yw hynny’n fwy gwir nac o ran y ffordd y mae’r Llywodraeth yn ymdrin â’r pandemig hwn.”

Caiff comisiwn ar goffáu Covid hefyd ei sefydlu i helpu i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn ystod y pandemig.

Holodd arweinydd Llafur, Keir Starmer, pam na allai’r ymchwiliad ddechrau cyn Gwanwyn 2022, gan awgrymu y gallai ddechrau yn ddiweddarach eleni.

Mae rhai wedi cyhuddo’r Llywodraeth o geisio gwthio’r canfyddiadau y tu hwnt i’r etholiad cyffredinol nesaf.

Adroddiad damniol

Daw hyn wrth i adroddiad damniol gan y Panel Annibynnol ar gyfer Parodrwydd ac Ymateb Pandemig, a gomisiynwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd (y WHO), ddatgan y gallai ymateb rhyngwladol cyflymach fod wedi atal achosion Covid-19 yn Tsieina yn 2019 rhag dod yn drychineb fyd-eang.

Mae’r astudiaeth gan y Panel yn dweud nad oedd y system fyd-eang bresennol yn ddigonol i amddiffyn pobl rhag Covid-19.

Dywedodd ei bod wedi cymryd gormod o amser i ddatgan argyfwng iechyd cyhoeddus yn dilyn clwstwr o achosion o niwmonia o darddiad anhysbys ym mis Rhagfyr 2019.

Dywedodd y panel hefyd fod Chwefror 2020 yn fis coll pan allai llawer mwy o wledydd fod wedi cymryd camau i gyfyngu lledaeniad Covid a “rhagweld y trychineb iechyd, cymdeithasol ac economaidd byd-eang”.

Ymchwiliad i Gymru?

Dywedodd Mr Johnson y byddai ymgynghori â llywodraethau datganoledig cyn cyhoeddi cwmpas terfynol yr ymchwiliad.

Llynedd, galwodd y gwrthbleidiau yn Senedd Cymru am ymchwiliad penodol i Gymru ac ymdriniaeth Llywodraeth Cymru o’r pandemig.

Ond gwrthodwyd hynny gan Mark Drakeford. Dywedodd y dylai’r ymchwiliad ystyried y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd.