Mae Mark Drakeford wedi cael ei enwebu fel Prif Weinidog Cymru yn ystod cyfarfod llawn cyntaf y Senedd heddiw (Mai 12).
Cafodd y sesiwn ei chynnal ar ffurf hybrid, gydag 20 o aelodau yn y Senedd a’r 40 arall yn ymuno dros Zoom o’u swyddfeydd yn Nhŷ Hywel.
Dim ond Mark Drakeford gafodd ei enwebu ar gyfer y rôl, ac nid oedd gwrthwynebiad i’r broses enwebu.
Wrth ddiolch i’r Senedd am eu cefnogaeth, dywedodd Mark Drakeford ei bod hi’n “bryd i bob un ohonon ni ddefnyddio’r mandad sydd gennym ni i roi syniadau ar waith… a symud Cymru ymlaen”.
Dywedodd Mark Drakeford y byddai’n canolbwyntio ar greu Cymru “gryfach, gwyrddach, a thecach”, ac y byddai’n “sicrhau nad yw pobol ifanc yn cael eu prisio allan o gymunedau sy’n siarad Cymraeg”.
Yn ystod cyfarfod cyntaf y chweched Senedd, cafodd pleidlais gudd ei chynnal ar gyfer ethol Llywydd y Senedd, a Dirprwy Lywydd hefyd.
Cafodd Elin Jones, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Geredigion, ei hail-ethol fel Llywydd, a chafodd David Rees ei ethol yn Ddirprwy Lywydd.
Bydd Elin Jones yn gofyn i’r Frenhines gymeradwyo’r enwebiad cyn i Mark Drakeford gael ei ailbenodi’n swyddogol fel Prif Weinidog.
“Symud Cymru Ymlaen”
“Hoffwn longyfarch holl aelodau’r Senedd, yn enwedig yr aelodau newydd. Edrychaf ymlaen at gydweithio â chi dros y bum mlynedd nesaf,” meddai Mark Drakeford, wrth groesawu’r 19 aelod sydd wedi cael eu hethol i’r Senedd am y tro cyntaf.
Dywedodd fod yr etholiad wedi bod yn un “eithriadol”, a’i fod yn “falch iawn” fod pobol ifanc 16 ac 17 oed wedi cael pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiadau’r Senedd.
“Yn awr, mae’n bryd i bob un ohonom ddefnyddio’r mandad sydd gennym i roi ar waith y syniadau y bu i ni ymgyrchu arnynt. I Symud Cymru Ymlaen,” meddai.
“A dyna yw’r man cychwyn pwysig ar gyfer fy sylwadau heddiw.
Fe wnaeth Mark Drakeford atgoffa pobol fod y pandemig yn dal i fynd yn ei flaen, gan ddweud y “bydd y Llywodraeth Lafur Cymru hon yn parhau i fynd i’r afael â coronafeirws yn y ffordd ofalus rydym wedi ei wneud hyd yma – drwy ddilyn y wyddoniaeth a diogelu’r bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau”.
“A byddwn yn arwain Cymru i adferiad fydd yn adeiladu dyfodol cryfach, gwyrddach a thecach i bawb – ni fydd neb yn cael ei ddal yn ôl ac ni fydd neb yn cael ei adael ar ôl.
“Rwy’n gwneud yr addewid pwysig hwn i’r Senedd heddiw yn sesiwn gyntaf y tymor newydd hwn. Byddaf yn arwain Llywodraeth Lafur Cymru.”
Creu “Cymru gryfach, gwyrddach a thecach”
“Ond byddwn yn llywodraethu mewn ffordd sy’n ceisio consensws ac a fydd yn ystyried syniadau newydd a blaengar – o ble bynnag y daw rheiny. Syniadau a all wella dyfodol pobl Cymru,” ychwanegodd Mr Drakeford.
“O coronafeirws i aer glân; o incwm sylfaenol cyffredin i sicrhau nad ydy pobol ifanc yn cael eu prisio allan o gymunedau sy’n siarad Cymraeg.
“Bydd y llywodraeth hon yn un sy’n gwrando ac a fydd yn cydweithio ag eraill, ble bynnag y bo hynny er budd Cymru.
“Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda llywodraethau eraill hefyd, ledled y Deyrnas Unedig, ble bynnag y gwneir hynny drwy berthynas gyfartal a pharch cyfartal.
“Llywydd, fy swydd i yw sefyll cornel Cymru, a phan fo angen gwneud hynny, ni fyddaf byth yn cymryd cam yn ôl. Ond fy man cychwyn fydd arwain llywodraeth sy’n bartner adeiladol a chadarnhaol sy’n gwrando, wrth inni fynd i’r afael â’r heriau hynny sy’n mynd y tu hwnt i’n ffiniau.
“Byddaf, bob amser, yn atebol i’r Senedd hon ac i bobol Cymru.
“Mae gan bob un ohonom yma heddiw un peth yn gyffredin – uwchlaw ac ar draws rhaniadau pleidiol.
“Mae gennym ymrwymiad ar y cyd i newid bywydau pobl er gwell ac i wireddu potensial y wlad ragorol ac unigryw hon.
“Dewch inni i gyd, felly, weithio i greu Cymru gryfach, gwyrddach a thecach.”
“Dymuno’n dda”
Llongyfarchodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mr Drakeford ac addawodd y byddai ei blaid yn “wrthblaid adeiladol”.
Dywedodd: “Bydd gwahaniaethau rhyngom. Ond mae meysydd lle byddwn yn gallu gweithio.”
Fe wnaeth Adam Price longyfarch y Llywydd, y Dirprwy Lywydd, a Mark Drakeford am gael ei gadarnhau fel Prif Weinidog hefyd.
“Hoffwn, yn ddiffuant, ddymuno’n dda iddo fe wrth ddelio gyda heriau a chyfleoedd yn ei swydd dros y blynyddoedd nesaf.”
Ethol y Llywydd: ‘Brwydr ar fynyddoedd Pumlumon’
Yn gynharach yn y sesiwn, cafodd Elin Jones ei hethol yn Llywydd mewn pleidlais yn erbyn Russell George, yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Drefaldwyn, gan ennill 35 o’r 60 pleidlais.
Mae Elin Jones wedi bod yn Aelod o’r Senedd ers yr etholiad cyntaf ym 1999, ac yn 2016 cafodd ei hethol yn Llywydd yn dilyn pleidlais yn erbyn Dafydd Elis-Thomas.
Wrth ddweud ychydig o eiriau cyn y bleidlais, fe wnaeth Elin Jones a Russell George ddiolch am eu henwebiadau, a defnyddiodd Elin Jones y cyfle i groesawu’r holl aelodau newydd i’r Senedd.
Dywedodd Elin Jones ei bod eisiau “cryfhau’r craffu ar y llywodraeth”, a sicrhau cyfleoedd gwell i aelodau o bob plaid gyfrannu o’r meinciau cefn.
Ychwanegodd bod Senedd hon “yn teimlo’n gryf ac yn gadarn, gyda phawb sydd wedi eu hethol yn cefnogi bodolaeth ein senedd genedlaethol”, a bod mwyafrif yr aelodau’n dymuno mwy o rymoedd i’r Senedd.
Gan gyfeirio at y ffaith ei bod hi a Russell George yn cynrychioli dwy etholaeth sy’n ffinio â’i gilydd, dywedodd Elin Jones, gan chwerthin, “y byddai’r ddau wedi sortio’r mater drwy ymladd gyda’r wawr ar fynyddoedd Pumlumon yn yr hen ddyddiau”.
Fodd bynnag, dywedodd fod y drefn bleidleisio “yn teimlo’n dipyn saffach, ac y bydd y ddau ohonom ni’n byw i ddweud yr hanes”.
Yn ei araith fer cyn y bleidlais, cyfeiriodd Russell George at y ffaith nad oes neb o’r Blaid Geidwadol wedi’i ethol yn Llywydd y Senedd o’r blaen, a bod angen bod “yn gynhwysol”.
Fe wnaeth addo trin aelodau’n “deg a chyfartal”, a dywedodd “na fyddai’n atal newid”, ond na fyddai’n gyrru’r newid hwnnw yn ei flaen chwaith.
Dirprwy Lywydd
Mae’r Senedd hefyd wedi ethol David Rees, Aelod y Blaid Lafur dros Aberafan, fel Dirprwy Lywydd ar gyfer y chweched Senedd hon.
Enillodd David Rees mewn pleidlais yn erbyn Hefin David, sydd hefyd yn aelod o’r Blaid Lafur ac yn cynrychioli’r Caerffili.
Enillodd David Rees y bleidlais gyda 35 o bleidleisiau, o gymharu â 24 i Hefin Davies.
Ers cael ei ethol i’r Senedd yn 2011, mae David Rees wedi bod yn gadeirydd ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal, ac yn gadeirydd ar sawl grŵp trawsbleidiol.
Cyn y bleidlais, fe wnaeth David Rees ddweud ei fod am sicrhau fod pawb yn gallu craffu ar y Llywodraeth, fel bod posib symud ymlaen.
Dywedodd hefyd ei fod yn awyddus i weld mwy o amrywiaeth o ran hil ac oedran yn y Senedd, gan gyfeirio at Natasha Asghar, y ddynes gyntaf o liw i gael ei hethol i’r Senedd, a phwysleisio ei fod am sicrhau nad hi fydd yr olaf.