Mae Aelod Seneddol brodorol o Seland Newydd wedi cael ei daflu allan o siambr y Senedd am berfformio haka Maori mewn protest ar yr hyn a ddywedodd oedd dadleuon hiliol.

Daeth safiad Rawiri Waititi ar ôl trafodaeth barhaus ymysg Aelodau Seneddol am gynlluniau’r llywodraeth i sefydlu Awdurdod Iechyd Maori newydd fel rhan o newidiadau ysgubol i’r system gofal iechyd.

Mae rhai Aelodau Seneddol ceidwadol wedi dweud y bydd y cynllun yn gwahanu pobol.

Yn ôl Rawiri Waititi, cyd-arweinydd Plaid Maori, mae’r dadleuon hynny’n gyfystyr â rhethreg hiliol.

“Cyfres gyson o sarhau”

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol yn y siambr ei fod wedi cael ei orfodi i wrando ar “gyfres gyson o sarhau” wedi’i anelu at bobol frodorol.

Yna dywedodd y Llefarydd Trevor Mallard wrtho i eistedd i lawr – ond yn hytrach perfformiodd y haka.

Dywedodd Trevor Mallard wrth Rawiri Waititi i adael y siambr – gwnaeth hynny, ynghyd â chyd-arweinydd arall ei blaid, Debbie Ngarewa-Packer.

Gwrthdaro

Nid dyma’r tro cyntaf i Rawiri Waititi wrthdaro â Trevor Mallard.

Ym mis Chwefror, enillodd frwydr yn erbyn gwisgo tei yn y Senedd, gan roi terfyn ar ofyniad gwisg i ddynion.

Fe wnaeth Trevor Mallard daflu Rawiri Waititi allan o’r siambr drafod yn ystod yr anghydfod hwnnw hefyd ar ôl iddo droi fyny i’r siambr yn gwisgo math o fwclis traddodiadol o’r enw ‘hei tiki’ o amgylch ei wddf.

Nid yw safiad diweddaraf Rawiri Waititi yn cael ei gefnogi gan yr holl Aelodau Seneddol Maori.

Ac ar ôl iddo adael, tynnodd dirprwy arweinydd y Blaid Lafur Kelvin Davis sylw at gefnogaeth gymharol fychan y Blaid Maori.

“Peidiwch byth â meddwl bod plaid sy’n cael 1.2% o’r bleidlais mewn gwirionedd yn cynrychioli barn Maoridom,” meddai.