Mae teulu a ffrindiau llanc 18 oed sydd wedi bod ar goll ers dros wythnos yn apelio am help i ddod o hyd iddo.

Cafodd Frantisek (neu Frankie) Morris ei weld ddiwethaf yn cerdded ym Mhentir, ger Bangor yng Ngwynedd, tua 1.20pm ddydd Sul 2 Mai.

Mae mwy na 4,500 o bobl wedi ymuno â’r grŵp Facebook Help Find Frankie Morris fel rhan o ymdrechion i ddod o hyd iddo.

Mae’n debyg iddo fynd i barti yn Waunfawr y noson cyn iddo ddiflannu.

Wrth ysgrifennu ar y grŵp, dywedodd ei fam Alice Morris: “Diolch yn fawr am eich holl ymdrech i ddod o hyd i’m mab Frankie, dydych chi ddim hyd yn oed yn gwybod faint rwy’n ei werthfawrogi!

“Rwy’n adnabod Frankie mor dda ac rwyf hefyd yn gwybod ei ffordd o fyw. Rwy’n credu iddo ymweld ag un o’i ffrindiau ym Mangor ac mae’n debyg bod rhywbeth drwg wedi digwydd iddo yno.”

Vaynol Arms

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fod Mr Morris wedi cael ei weld ddiwethaf yn cerdded heibio tafarn y Vaynol Arms ym Mhentir, yn gwthio beic ac yn gwisgo crys-T llwyd a siorts glas.

Cafwyd hyd i’r beic ger y dafarn, wythnos ar ôl iddo gael ei weld ddiwethaf.

Dywedodd y Prif Arolygydd Llinos Davies: “Hoffwn apelio’n uniongyrchol at Frankie ac rwyf am iddo wybod mai ein hunig bryder yw gwybod ei fod yn ddiogel ac yn iach.

“Rwy’n annog Frankie neu unrhyw un sy’n gwybod am ei leoliad i gysylltu â ni. Bydd angen inni wirio lles Frankie, ond bydd ei gyfrinachedd a’i ddymuniadau’n cael eu parchu.

“Rydym yn parhau i bryderu am Frankie, ac rydym yn dal i ddefnyddio cryn dipyn o adnoddau’r heddlu ac asiantaethau partner [i ddod o hyd iddo].”

Tîm Achub Mynydd Ogwen

Cafodd tim Achub Mynydd Ogwen ei alw allan i gynorthwyo gyda’r chwilio ddydd Llun.

Dywedodd datganiad ar dudalen Facebook y sefydliad: “Cafodd y tîm eu alw allan nos Lun i gefnogi Heddlu Gogledd Cymru wrth chwilio am Frankie Morris, sydd yn ei arddegau ac ar goll.

“Chwiliodd tua 25 aelod o’r tîm ar ffyrdd, mewn gwrychoedd a chaeau gan ddechrau o ble roedd beic wedi’i ganfod. Heb unrhyw ddarganfyddiadau erbyn iddi nosi, safodd y tîm i lawr tra’n aros am ragor o dasgau gan Heddlu Gogledd Cymru.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am leoliad Mr Morris gysylltu â’r heddlu ar 101.