Mae Carrie Harper, sy’n Gynghorydd Plaid Cymru yn Wrecsam, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal digwyddiadau prawf yn y Gogledd.

Mewn deiseb, mae Plaid Cymru Wrecsam yn galw am ganiatáu i gefnogwyr pêl-droed gael mynediad i’r Cae Ras yn Wrecsam ar gyfer gwylio’r gêm yn erbyn Notts County ar Fai 18.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf, a fydd yn cynnwys caniatáu i 4,000 o wylwyr fynychu gêm bêl-droed Cymru yn erbyn Albania fis Mehefin, ond nad oedd yn cynnwys unrhyw ddigwyddiadau yn y Gogledd.

Bydd y digwyddiadau cyntaf, sef Eid yn y Castell a Tafwyl, yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd yr wythnos hon, ac mae trafodaethau ar y gweill i ganiatáu i gefnogwyr fynychu gemau pêl-droed Abertawe a Chasnewydd yr wythnos nesaf.

“Ddim yn derbyn” hyn

Mae’r holl ddigwyddiadau yn cael eu cynnal i’r de o Aberhonddu, ac mae deiseb Plaid Cymru Wrecsam yn holi pam nad oes yr un yn y Gogledd.

Erbyn hyn mae dros 325 o bobol wedi llofnodi’r ddeiseb, ac mae Carrie Harper wedi dangos ei chefnogaeth gan ddweud “nad ydy hi’n derbyn” fod yr holl ddigwyddiadau prawf yn cael eu cynnal yn y De.

Mewn trydariad blaenorol, fe wnaeth hi fynnu fod “rhaid cynnwys Clwb Pêl-droed Wrecsam” ar y rhestr.

“Siarad cyfrolau”

Wrth ymateb i’r rhestr arfaethedig o ddigwyddiadau prawf peilot yng Nghymru, dywedodd AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd, Mabon ap Gwynfor:

“Mae’r ffaith nad oes digwyddiadau prawf peilot i’r gogledd o Aberhonddu yn siarad cyfrolau am flaenoriaethau Llywodraeth Lafur Cymru.

“Mae lleoliadau wedi cael trafferth drwy’r pandemig ym mhob rhan o’r wlad ac mae’n anffodus iawn bod y cynllun peilot yn anwybyddu’r nifer fawr o leoliadau addas sydd gennym yma ar draws y rhanbarth.

“Os yw’r llywodraeth o ddifrif am wneud yn siŵr nad yw’r Gogledd yn cael ei adael y tu ôl, rhaid i’w weithredoedd ar ôl yr etholiad gyfateb i’w eiriau cynnes o’i flaen.”

“Un gwall amlwg”

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gywiro’r “gwall amlwg”, a threfnu bod digwyddiadau yn cael eu cynnal yn y Gogledd.

“Mae’n braf gweld treialon cynulleidfaoedd a thorfeydd yn cael y golau gwyrdd, ond dylai gweinidogion gywiro’r un gwall amlwg yn y cynllun a sicrhau bod yno gynlluniau peilot yng ngogledd Cymru, nid dim ond yn y de,” meddai Andrew RT Davies wrth ymateb i’r camau nesaf Llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

‘So what?

Nid pawb sydd yn yn cytuno fod problem, fodd bynnag. Trydarodd Alun Davies, yr Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent:

“Does dim yn y cymoedd chwaith. So what? Mae’r digwyddiadau hyn er mwyn dysgu gwersi am y feirws.

“Os ydyn ni’n mynd i gael y math yma o nonsens a chwyno blinedig bob tro mae rhywun yn teimlo fel cynhyrchu pennawd diog yna mae’n mynd i fod yn 5 mlynedd hir iawn.”

Cyhoeddi rhestr o ddigwyddiadau prawf wrth lacio’r cyfyngiadau

Ond cwynion nad oes digwyddiadau yn y Gogledd