Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu camau nesaf Llywodraeth Cymru wrth lacio cyfyngiadau’r coronafeirws.

Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod mewn lleoliadau dan do, fel caffis a thafarndai, o ddydd Llun, Mai 17.

Mae busnesau o’r fath wedi cael ailagor yn yr awyr agored ers Ebrill 26.

“Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae gennym y cyfraddau coronafeirws isaf a’r cyfraddau brechu gorau yn y Deyrnas Unedig,” meddai’r prif weinidog Mark Drakeford.

Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y “bydd y newyddion heddiw yn cael ei groesawu gan deuluoedd, gweithwyr a busnesau, gyda phawb yn fwy taer nag erioed i ddychwelyd at ymdeimlad o normalrwydd ledled Cymru”.

“Gyda’r rhaglen frechu yn dod yn ei blaen, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn glir y byddwn yn cefnogi pob llwybr a fydd yn caniatáu i letygarwch dan do, llety twristiaeth dan do a sectorau eraill ailagor mor ddiogel a chyflym â phosibl,” meddai.

“Mae’n braf gweld treialon cynulleidfaoedd a thorfeydd yn cael y golau gwyrdd, ond dylai gweinidogion gywiro’r un gwall amlwg yn y cynllun a sicrhau bod yno gynlluniau peilot yng ngogledd Cymru, nid dim ond yn y de.

“Ar ôl anawsterau yn y gorffennol, y flaenoriaeth uniongyrchol i Lywodraeth Lafur Cymru yw sicrhau bod y cymorth ariannol diweddaraf i fusnesau yn cael ei ddarparu’n ddidrafferth fel y gallwn gefnogi swyddi yng Nghymru a chael yr economi ar y ffordd i wella.”

Cadarnhau y caiff hyd at chwech o bobl gyfarfod mewn lleoliadau dan do o ddydd Llun ymlaen

A rhagor o gymorth i fusnesau sy’n parhau i gael eu heffeithio