Bydd Aelodau o’r Senedd yn enwebu Prif Weinidog Cymru heddiw (dydd Mercher, Mai 12), a’r disgwyl yw y bydd Mark Drakeford yn parhau yn y rôl.

Bydd cyfarfod llawn cyntaf y Senedd hwn yn cyfarfod pedwar diwrnod ar ôl i’r blaid Lafur efelychu eu canlyniad etholiad Senedd Cymru gorau erioed drwy ennill 30 sedd.

Mae hynny wedi gadael y blaid un yn brin o fwyafrif clir.

Tasg gyntaf yr Aelodau fydd ethol Llywydd, yn ogystal â Dirprwy Lywydd, pan fydd y sesiwn yn dechrau am 3 o’r gloch.

Oherwydd cyfyngiadau coronafeirws, dim ond 20 Aelod o’r Senedd fydd yn y Siambr, tra bydd y 40 arall yn ymddangos o bell o swyddfeydd y Senedd.

Mae’n debyg fod Elin Jones o Blaid Cymru yn ceisio cael ei hailethol yn Llywydd, sef y person sy’n cadeirio sesiynau yn siambr y Senedd.

Yna bydd Aelodau o’r Senedd yn ethol Prif Weinidog, a’r disgwyl yw y bydd Mark Drakeford yn parhau yn y rôl.

Does dim disgwyl i’r Ceidwadwyr Cymreig, sef yr ail blaid fwyaf yn y Senedd gydag 16 aelod, enwebu Andrew RT Davies.

Os caiff dau Aelod eu henwebu, bydd yr un sy’n sicrhau’r nifer fwyaf o bleidleisiau yn cael ei ddatgan yn enwebai i fod yn Brif Weinidog.

Os bydd mwy na dau Aelod wedi’u henwebu, bydd yr un sy’n sicrhau mwy o bleidleisiau na phob ymgeisydd arall yn cael ei ddatgan yn enwebai.

Bydd y Llywydd newydd wedyn yn cyhoeddi’r canlyniad i’r Senedd, cyn argymell i Frenhines Loegr y dylid penodi’r Aelod sydd wedi’i enwebu yn ffurfiol yn Brif Weinidog.