Fe ddisgynnodd trais difrifol bron i draean yn 2020 yn ystod cyfyngiadau symud, yn ôl ymchwilwyr.

Mae dadansoddiad gan Grŵp Ymchwil Trais Prifysgol Caerdydd yn dangos bod 56,653 yn llai o bobol wedi cael eu trin yn yr ysbyty am anafiadau sy’n gysylltiedig â gweithredoedd treisgar yn 2020 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Datgelodd data a gafodd ei gasglu o 133 o unedau brys ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru a Lloegr fod 119,111 o bobol wedi’u derbyn i drin anafiadau sy’n gysylltiedig â thrais y llynedd, i lawr o 175,764 yn 2019.

Disgynnodd triniaeth frys ar gyfer yr anafiadau ymhlith dynion gan 33%, a chan 29% ymhlith merched.

Dyma’r gostyngiadau mwyaf ers adroddiad cyntaf yr ymchwilwyr ugain mlynedd yn ôl.

Roedd y gostyngiadau mwyaf ymhlith plant o dan 11 oed – 66% – tra bod dynion 18-30 oed ddwywaith yn fwy tebygol na menywod o gael triniaeth frys mewn ysbyty am anafiadau yn sgil trais.

Yn ôl yr Athro Jonathan Shepherd, cyd-awdur Trais yng Nghymru a Lloegr yn 2020, mai’r cyfyngiadau symud cyntaf yn bennaf gyfrifol am y gostyngiadau, yn ogystal â chau tafarndai, clybiau a lleoliadau cymdeithasol eraill.

Fodd bynnag, roedd cynnydd mewn trais bob tro y cafodd y cyfyngiadau eu llacio.

Rhybuddiodd hefyd nad yw’r darlun o ran trais domestig yn glir.

“Cofnododd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr 842,813 o droseddau’n ymwneud â thrais domestig yn y flwyddyn hyd at fis Medi 2020, ond ni adroddir am lawer o droseddau o’r fath,” meddai.

“O safbwynt damweiniau ac achosion brys, yng Nghaerdydd, nad yw efallai’n nodweddiadol, ni newidiodd lefelau trais yn y cartref o’i gymharu â 2019.”