Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys sydd newydd gael ei ailethol i’r rôl, wedi amddiffyn y llu.

Daw hyn ar ôl i ymchwilwyr gyhuddo Heddlu Dyfed-Powys o ‘beryglu diogelwch y cyhoedd’ drwy fethu â chofnodi miloedd o droseddau.

Mae’r llu wedi derbyn rhybudd gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMICFRS) gydag amcangyfrif eu bod yn methu cofnodi 4,400 o droseddau bob 12 mis.

Dywedodd adroddiad yr Arolygiaeth mai ychydig iawn o dystiolaeth a ganfu o gofnodi troseddau’n cael ei oruchwylio’n effeithiol gan swyddogion, a fyddai fel arall yn caniatáu i’r heddlu sicrhau bod dioddefwr yn cael ei ddiogelu a bod ymchwiliad priodol yn cael ei gwblhau.

Fe ddaeth yr arolygwyr i gasgliadau tebyg yn 2018.

Ond dywed Dafydd Llywelyn ei fod wedi cael “sicrwydd” fod dioddefwyr yn cael eu diogelu er gwaetha’r canfyddiadau.

“Ydw, dw i’n cydnabod fod mwy o waith i’w wneud yn y rhan yma o’r hyn mae’r arolygon yn edrych arno,” meddai ar raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru.

“Felly mae lot o’r gwaith mae’r arolygon yn edrych arno, un haenen o’u gwaith nhw’n arolygu’r heddlu, nid dim ond yn Heddlu Dyfed Powys ond ar draws Cymru, ydi hwn.

“Ond dw i’n barod iawn i gydnabod fod angen gwella ymhellach, a dydyn ni ddim wedi gwella yn ddigonol ers yr adroddiad hwnnw yn 2018.

“Mae hynny yn destun siom ar lefel bersonol, ond dw i hefyd eisiau mynd drwy rai o’r manylion a rhai o’r pethau technegol mae’r arolygon yn ei wneud achos mae hefyd yn destun siom eu bod nhw’n defnyddio iaith ymfflamychol yn y cyhoeddiadau maen nhw’n ei wneud, sydd ddim, yn fy marn i, yn gywir iawn.”

Dafydd Llywelyn am fod yn “bencampwr o ran y dioddefwyr”

Yn ôl Dafydd Llywelyn, wnaeth yr arolygwyr ddim ond cymryd sampl o ryw 600 o achosion dros gyfnod o dri mis.

“O’r rhain, roedd rhwng 60-70 o droseddau ddim wedi eu cofnodi, mae hynny’n anffodus, ac fe ddylai pob trosedd gael ei chofnodi, rwy’n llawn dderbyn hynny,” meddai.

“Beth rydyn ni’n sôn am yw diffyg cofnodi o ‘droseddau o fewn troseddau’ – lle mae yna sawl trosedd mewn digwyddiad, lle mae nifer o honiadau yn cael eu gwneud.”

Mae’n honni, o’r 20 o ddigwyddiadau yn ymwneud â thrais yn y cartref, fod 15 wedi eu nodi ac roedd dioddefwyr wedi cael eu hasesu’n llawn, ac wedi eu diogelu.

“Rwy’n parhau i fod â chonsyrn am y pump na chafodd asesiad risg – oherwydd dyna fy swydd fel Comisiynydd, i fod yn bencampwr o ran y dioddefwyr.”

Heddlu Dyfed-Powys yn ‘peryglu diogelwch y cyhoedd’ drwy fethu â chofnodi miloedd o droseddau

“Dylai unrhyw un sy’n adrodd am drosedd deimlo’n ddiogel gan wybod y bydd eu heddlu lleol yn ei gofnodi”