Mae Yes Cymru wedi cyhoeddi rhybudd diogelwch ar drothwy diwrnod Baneri Ar Bontydd cenedlaethol ddydd Sadwrn (Mai 15).

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal wrth gadw at gyfyngiadau Covid-19 Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi’r hawl i hyd at 30 o bobol gyfarfod yn yr awyr agored.

Mae Yes Cymru yn annog aelodau i gadw pellter o ddwy fetr oddi wrth ei gilydd oni bai eu bod nhw’n byw ar yr un aelwyd, ac i wisgo mygydau a menig.

Ond maen nhw hefyd wedi cyhoeddi rhagor o gyngor ar sut i gynnal y digwyddiad yn ddiogel, ac mae hyn yn cynnwys:

  • sicrhau bod unrhyw faneri wedi’u clymu’n ddiogel er mwyn osgoi perygl i gerbydau sy’n mynd heibio
  • osgoi gadael unrhyw faneri heb gadw llygad arnyn nhw rhag iddyn nhw gwympo neu chwythu ar ben cerbydau ac achosi damwain
  • symud os yw’r heddlu neu swyddogion Cyngor yn gofyn i bobol wneud hynny

“Bydd yn ddiwrnod cyffrous iawn a bydd gyda ni gyfle anhygoel i ddangos ein lliwiau ar hyd a lled Cymru,” meddai’r mudiad wrth yr aelodau mewn e-bost.

“I gael yr effaith fwyaf posibl, hoffem ichi rannu cymaint o luniau â phosibl ar y cyfryngau cymdeithasol, a pheidiwch ag anghofio defnyddio’r hashnodau #annibyniaeth #indywales a thagio rhai ffrindiau a allai fod rhwng dau feddwl am annibyniaeth.”

Baneri ar bontydd

‘Baneri ar Bontydd’ tros annibyniaeth

Grwpiau Yes Cymru wedi cynnal digwyddiadau ar bontydd ddydd Sadwrn