Mae Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad y Sioe Frenhinol, sy’n cael ei gynnal rhwng Mai 15 ac 16 yn digwydd ar-lein eleni, ac mae Cyswllt Ffermio’n canolbwyntio eleni ar fentrau arallgyfeirio ‘graddfa fach’ sydd â’r potensial o ehangu.
Ymysg prif themâu Cyswllt Ffermio fel rhan o raglen weithgareddau arfaethedig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru fydd:
- cadw gwenyn, sy’n gwneud cymaint i wella bioamrywiaeth
- menter tyfu blodau a ffrwythau ‘casglu eich hunan’ a gafodd ei sefydlu yn ddiweddar yn ystod y cyfnod clo, a
- chyngor ynglŷn â rhedeg uned foch llwyddiannus o safon uchel
Dywed Ffion Rees, rheolwr digwyddiadau Cyswllt Ffermio, nad yw’r sefyllfa wedi bod yn gwbl arferol o safbwynt Cyswllt Ffermio oherwydd cwtogi cymaint o weithgareddau wyneb i wyneb yn sgil y pandemig.
Ond mae’r gallu i gyrraedd cynulleidfa drwy gyfrwng digwyddiadau, cyrsiau hyfforddi, gweminarau a phrosiectau ar-lein sy’n benodol i’r sector wedi galluogi’r rhaglen i gefnogi a chadw mewn cysylltiad cyson â miloedd o ffermwyr a choedwigwyr ar hyd a lled Cymru.
Eleni, bydd rhaglen yr ‘ŵyl wanwyn’ yn cynnwys cyflwyniadau ar-lein am ‘Ddechrau cadw gwenyn’ gan reolwr cyfnewid gwybodaeth Cyswllt Ffermio a’r wenynwraig gymwysedig Lynfa Davies.
Bydd y fenter blodau a chasglu eich ffrwythau eich hun newydd yng ngofal Lucy Owen o Ruthun, mam ifanc brysur sydd ag awch i sefydlu ei busnes newydd ei hun.
A bydd cyngor arbenigol hefyd i’r rhai sydd eisoes yn cadw moch neu’n awyddus i ddechrau arni.
“Rydym ni wedi dod â nifer o arbenigwyr a mentoriaid at ei gilydd, pob un ohonyn nhw’n hapus i rannu eu profiad a’u doethineb gydag eraill sy’n ystyried sefydlu neu ehangu menter arallgyfeirio,” meddai Ffion Rees.
‘Her newydd’ Lucy Owen
Mae Lucy Owen yn wraig ifanc ac yn fam i dri o blant ifanc, ac mae ganddi swydd ran amser ym maes cyfrifon.
Yn 2019, ar ôl i’w phlentyn ieuengaf ymgartrefu yn yr ysgol feithrin, penderfynodd Lucy ei bod hi’n barod am her newydd.
“Y trobwynt i fi oedd gwneud cais i Academi Amaeth Cyswllt Ffermio a roddodd ffrindiau newydd i mi, rhwydweithiau newydd o unigolion uchelgeisiol o’r un anian yn ogystal â’r hyder i gredu y gallwn ac y dylwn sefydlu fy musnes newydd fy hun!” meddai.
Bydd Cyswllt Ffermio yn defnyddio rhaglen o gyflwyniadau ar-lein yr ŵyl i hybu’r ddarpariaeth ehangach o gyrsiau hyfforddi sy’n benodol i’r sector a gweithdai iechyd anifeiliaid, modiwlau e-ddysgu, digwyddiadau, gweminarau a phrosiectau arbenigol ar y pynciau hyn a nifer o feysydd ffermio a choedwigaeth eraill.