Mae dwy ferch o Geredigion wedi mynd ati i greu a lansio cymdeithas newydd ar gyfer siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio neu’n ymddiddori mewn Cyfathrebu.

Bwriad SYLW yw creu cymuned o arbenigwyr yn y maes er mwyn iddyn nhw ddod ynghyd i rannu syniadau, creu cysylltiadau a datblygu eu gyrfaoedd yn gyfangwbl drwy’r Gymraeg.

Mae Manon Wyn James yn hanu o Dregaron ac yn Bennaeth Adran y Wasg S4C, ac mae ganddi dros ugain mlynedd o brofiad yn y maes.

Mae Gwenan Davies o Fydroilyn yn arbenigo yn y Gymraeg yn y sector cyhoeddus ar ôl bod yn gweithio ar gynlluniau i hyrwyddo’r Gymraeg ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda cyn symud i weithio yn Adran Farchnata’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

‘Cyfathrebu yn faes sy’n parhau i dyfu’

“Mae Cyfathrebu yn faes sy’n parhau i dyfu,” meddai Manon Wyn James.

“Does dim un sefydliad neu gwmni yn mynd i allu gweithredu heb fod yna dîm neu berson Cyfathrebu wrth y llyw.

“Mae’n faes cyffrous tu hwnt i weithio ynddo, ac mae’n faes lle mae cysylltiadau mor bwysig.

“Gobeithio felly bydd SYLW yn gyfle i arbenigwyr Cyfathrebu Cymru ddod i adnabod ei gilydd a dysgu o brofiadau ei gilydd hefyd.”

Mae’r dewisiadau ar gyfer cyrsiau hyfforddiant cyfrwng Saesneg yn y maes yn helaeth, ond mae prinder cyrsiau cyfrwng Cymraeg a galw mawr amdanyn nhw, yn ôl Gwenan Davies.

“Fe wnaethom ni ddechrau sgwrsio rai misoedd yn ôl, ar ôl bod ar sawl gwrs hyfforddi yn y Saesneg a gweld galw gwirioneddol ar gyfer rhywbeth tebyg yn y Gymraeg,” meddai.

“Mae angen rhoi y cyfle i siaradwyr Cymraeg sy’n gweithio yn y maes i rwydweithio yn Gymraeg.”

Mae’r ddwy yn gytûn fod gweithio yn y maes Cyfathrebu yn Gymraeg yn gwbl wahanol, a bod rhaid bod yn “fwy cynnil yn aml iawn”, ac maen nhw’n awyddus i sicrhau bod y gymuned glos yn y maes yn gallu dysgu oddi wrth ei gilydd.

Cynhadledd rithiol a chynllun mentora

Bydd SYLW yn cynnal eu cynhadledd rithiol gyntaf ym mis Mehefin, a’r bwriad wedyn yw lansio cynllun mentora rai misoedd yn ddiweddarach.

Y nod hefyd yw rhannu gwybodaeth am swyddi yn y maes, rhannu ‘tips’ ac arfer da, a chynnal sesiynau hyfforddiant yn ystod y flwyddyn.

A gyda’r maes Cyfathrebu erbyn hyn yn un eang iawn, y gobaith yw y bydd SYLW yn denu aelodau ym maes marchnata, hyrwyddo, brandio, cysylltiadau cyhoeddus, y wasg, materion cyhoeddus a’r cyfryngau cymdeithasol.