Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod mewn lleoliadau dan do, fel caffis a thafarndai, o ddydd Llun 17 Mai ymlaen.

Mae busnesau o’r fath wedi cael ailagor yn yr awyr agored ers 26 Ebrill.

Wrth wneud y cyhoeddiad mewn datganiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y gallai busnesau sy’n parhau i gael eu heffeithio gan gyfyngiadau hawlio hyd at £25,000 yn rhagor o gefnogaeth.

Bydd y pecyn cymorth diweddaraf hwn yn helpu’r busnesau hyd at ddiwedd mis Mehefin wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor.

Mae’r busnesau a all elwa’n cynnwys y canlynol:

  • Clybiau nos a lleoliadau adloniant hwyr
  • Digwyddiadau a lleoliadau cynadledda nad ydynt wedi’u cynnwys yng Nghronfa Adfer Ddiwylliannol (CRF) Llywodraeth Cymru
  • Busnesau lletygarwch a hamdden, gan gynnwys bwytai, tafarndai a chaffis
  • Busnesau’r gadwyn gyflenwi, sydd wedi cael eu heffeithio’n sylweddol gan y cyfyngiadau.

Mae’r gefnogaeth yn gam cyntaf pecyn gwerth £200m sydd wedi’i glustnodi ar gyfer Llywodraeth newydd Cymru i helpu busnesau y mae’r pandemig yn effeithio arnynt.

“Sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella”

“Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yn parhau i wella yng Nghymru – mae gennym y cyfraddau coronafeirws isaf a’r cyfraddau brechu gorau yn y DU,” meddai’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

“Rydyn ni’n gwybod bod y cyfyngiadau wedi helpu i’n cadw ni i gyd yn ddiogel ond maen nhw wedi cael effaith fawr ar fusnesau Cymru, a dyna pam rydyn ni’n sicrhau bod mwy o gyllid ar gael i gefnogi cwmnïau a diogelu swyddi.

“Bydd busnesau cymwys yn derbyn cymorth o hyd at £25k wrth iddynt baratoi i ailagor a symud tuag at amodau masnachu mwy arferol.

“Bydd fy llywodraeth newydd yn rhoi mwy o fanylion am y cymorth ariannol ychwanegol y byddwn yn ei ddarparu i fusnesau i’w helpu i ddatblygu a thyfu wrth i Gymru adfer o effaith y pandemig.

“Wrth i ni barhau i lacio’r cyfyngiadau, gallaf gadarnhau y bydd hyd at chwech o bobl o chwe aelwyd wahanol yn gallu cyfarfod dan do mewn lleoliadau a reoleiddir, fel caffis a thafarndai, o ddydd Llun ymlaen.”

Bydd busnesau’n gallu cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd y mis a byddant yn derbyn rhwng £2,500 a £25,000 gan ddibynnu ar eu hamgylchiadau. Caiff y cyllid ei gyfrif yn seiliedig ar faint y busnes a’r math o gyfyngiadau.

Bydd gwiriwr cymhwysedd ar wefan Busnes Cymru o hanner dydd ar 17 Mai.