Cafodd nifer o ddigwyddiadau eu cynnal ar bontydd y de ddydd Sadwrn i dynnu sylw at ymgyrch Yes Cymru i sicrhau annibyniaeth i Gymru.
Ymgyrch a gafodd ei sefydlu gan Yes Cymru Cwmbrân oedd ‘Baneri ar Bontydd’ (Banners on Bridges), ond fe gynhaliodd sawl cangen ddigwyddiadau tebyg yn eu hardaloedd yn ystod y dydd.
Ymhlith y canghennau eraill oedd wedi cymryd rhan yn y digwyddiad roedd Abertawe, Llanelli, Merthyr Tudful, Pontypridd a Phontypŵl.
‘Syml ond effeithiol’
Wrth siarad â golwg360 ar ôl y digwyddiad, dywedodd cadeirydd Yes Cymru Abertawe, Tricia Roberts: “Dyma’r digwyddiad cyntaf i gael ei gydlynu ar lawr gwlad ar draws grwpiau Yes Cymru – digwyddiad syml ond effeithiol.
“Yn ogystal â Yes Cymru Abertawe, fe wnaeth Yes Llanelli ymuno â ni, fe wnaeth Yes Merthyr a Yes Pontypridd ddigwyddiad gyda’i gilydd ac fe wnaeth Yes Cwmbrân a Yes Pontypŵl ddigwyddiad gyda’i gilydd.”
Daeth criw Yes Cymru Abertawe at ei gilydd ar bont uwchben Ffordd Fabian, y brif ffordd i mewn i’r ddinas o’r dwyrain.
Ychwanegodd Tricia Roberts: “Roedden ni wedi dewis y bont hon gan ei bod uwchben ffordd brysur ac mae’n amlwg iawn. Roedd yn fwy diogel na’r M4.
“Doedden ni ddim eisiau mynd ar draws cerddwyr sy’n defnyddio’r bont, felly roedd y bont hon yn addas i hyrwyddo Yes Cymru. A dyna ymateb gawson ni!
“Ces i fy synnu gan bobol yn canu cyrn eu ceir, yn bloeddio “Yes!” a “Rhyddid!”, bodiau yn yr awyr a thaflu breichiau i’r awyr.
“Roedd yn awr bositif ac Ie! Fe wnawn ni hyn eto.”
Amazing hour of positivity! Beeps galore, shouts of Yes, freedom! And thumbs up! pic.twitter.com/SRDAYgc2Mv
— YesCymruAbertawe (@YesAbertawe) June 23, 2018
Even more support today from drivers tooting their horns in Pontypwl supporting YesCymru and our independence. #bannersonbridges #indywales pic.twitter.com/CzMgVR6pDl
— YesPontypwl (@YesPontypwl) June 23, 2018
Bore braf iawn ym Merthyr…. //
Banners on Bridges this morning in beautiful Merthyr sunshine 😎 More pics and footage to follow. Please RT @YesCymru pic.twitter.com/QVHl0r0oPO— YesMerthyrTudful (@YesMerthyr) June 23, 2018
Ac fe gafodd englyn ei gyfansoddi ar gyfer yr achlysur yn Abertawe:
Boreugwaith
Ai ofer fu’r cyhwfan – a herio’n
Fanerog Ffordd Fabian?
Na! Roedd grym ymhob lluman
‘N ennyn aml waedd – “Awn Ymlân!”#YmatebRhyfeddolGadarnhaol@LlioHeleddOwen @YesCymru @YesAbertawehttps://t.co/OCXkxVmkPI pic.twitter.com/acKxehetGU
— Huw Dylan Owen (@Gurfal) June 23, 2018