Mae ffigyrau’n dangos bod bron i hanner pobol ifanc wedi derbyn brechlyn coronafeirws mewn rhai rhannau o Gymru.
Yng ngogledd Cymru mae 44% o oedolion 18-29 oed wedi derbyn eu dos cyntaf, tra bod y ffigwr yn 46% yng Nghaerdydd a’r Fro.
Fodd bynnag, mae’r rhaglen frechu yn symud ar gyflymderau gwahanol fesul bwrdd iechyd.
36.6% o oedolion 18-29 oed sydd wedi derbyn o leiaf un pigiad ar gyfartaledd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnig dos cyntaf o’r brechlyn i bob oedolyn erbyn diwedd mis Gorffennaf.
Daw hyn ar ôl i’r Llywodraeth lwyddo i gynnig dos cyntaf i bawb yn y grwpiau blaenoriaeth 1 i 9 erbyn canol mis Ebrill.
Mae pobol dan 30 oed wedi cael cynnig y brechlyn Pfizer neu Moderna yn hytrach na phigiad Rhydychen-AstraZeneca ers mis Ebrill.
Mae hynny oherwydd bod brechlyn Rhydychen-AstraZeneca wedi cael ei gysylltu â cheuladau gwaed prin.
Cafodd yr un cyngor ei roi i bobol dan 40 oed yr wythnos diwethaf.