Mae pedwar o bobl, gan gynnwys dyn o Ynys Môn, wedi cael eu harestio fel rhan o ymchwiliad i frawychiaeth adain dde.

Fe fydd dau ddyn a dynes yn ymddangos gerbron llys yn Llundain yn ddiweddarach heddiw (Dydd Gwener, Mai 14) ar gyhuddiad o droseddau brawychol, ynghyd a dyn arall, meddai’r heddlu.

Cafodd y pedwar eu harestio ar Fai 1 mewn eiddo yn Ynys Môn, Swydd Efrog a Wiltshire.

Yn ôl yr heddlu gwrth-frawychiaeth yn y Gogledd Ddwyrain roedd tri o’r pedwar yn wynebu honiadau bod ganddyn nhw arf 3D yn eu meddiant a bod “amheuaeth bod hynny’n gysylltiedig â bwriad i gomisiynu, paratoi neu weithredu gweithredoedd brawychol.”

Y tri sydd wedi’u cyhuddo mewn cysylltiad â’r arf mae Daniel Wright, 29, Liam Hall, 30, a Stacey Salmon, 28, o Keighley, Swydd Efrog.

Mae Samuel Whibley, 28, o Derwen Deg, Porthaethwy, Ynys Môn, wedi’i gyhuddo o annog brawychiaeth a dosbarthu deunydd sy’n annog brawychiaeth.

Mae disgwyl i’r pedwar ymddangos gerbron Llys Ynadon Westminster drwy gyswllt fideo bore ma.