Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi y bydd canolfannau hamdden y sir yn ailagor yn gynt.

Roedd y cyngor wedi dweud ddoe (Mai 13) eu bod yn aros ynghau am ddeufis arall er mwyn lleihau’r risg o gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal.

Mae Canolfan Hamdden Aberteifi yn cael ei defnyddio fel Canolfan Frechu Torfol ar hyn o bryd, a bydd yn parhau felly tra bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ei angen.

Fodd bynnag, mae canolfannau Hamdden Aberaeron a Llambed yn rhydd.

“O ganlyniad i’r cyfraddau heintiau cyfredol yn y sir a’r cyngor diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwnaed penderfyniad i ddod a dyddiad ailagor y ddarpariaeth chwaraeon dan do a gweithgaredd corfforol yng nghyfleusterau a weithredir gan Gyngor Sir Ceredigion ymlaen,” meddai Cyngor Sir Ceredigion mewn datganiad.

Dyma’r amserlen wedi ei ddiweddaru.

  • Cerdded er Lles – 17 Mai
  • Dosbarthiadau Ymarfer Corff Awyr Agored; Defnydd sefydliadau cymunedol o Gyfleusterau Awyr Agored gan gynnwys Caeau Pob Tywydd (Llambed, Ysgol Bro Teifi a Synod Inn) a Meysydd Chwarae – 28 Mai
  • Cyfleusterau Hamdden Dan Do; Canolfan Hamdden Aberaeron; Canolfan Hamdden Llanbedr Pont Steffan; Pwll Nofio Llanbedr Pont Steffan; a Neuadd Chwaraeon Ysgol Penglais gan gynnwys defnydd gan Sefydliadau Cymunedol – yr wythnos yn dechrau 7 Mehefin ymlaen.

Mae ailagor yn parhau i ddibynnu ar y ffactor nad oes cynnydd sylweddol yn nifer yr achosion yn y sir.

Canolfannau hamdden Sir Ceredigion yn aros ynghau am ddau fis arall

Dywed y cyngor eu bod yn aros ynghau er mwyn lleihau’r risg o gynnydd mewn achosion o’r coronafeirws yn yr ardal