Cafodd tair carafan a cherbyd oedd wedi cael eu dwyn eu dal mewn cyrch gan yr heddlu yng Nghaernarfon y bore yma.
Digwyddodd y cyrch ger trofan Morrisons ar Ffordd y Gogledd toc wedi chwech o’r gloch y bore pan gafodd y dair carafan a cherbyd eu hatal.
Bu’n rhaid i’r cerbydau oedd yn tywys y carafannau a’r carafanau eu hunain gael eu gadael ynghanol y ffordd brysur gan greu cryn oedi i fodurwyr a thrafnidiaeth arall.
Roedd nifer o aelodau Heddlu’r Gogledd yn rhan o’r cyrch ynghŷd a nifer o geir yr heddlu.
Ciwiau hirion
Fe greodd y digwyddiad giwiau hirion o draffig ar ffordd yr A487 i’r ddau gyfeiriad – tuag at Fangor a Phorthmadog.
Cafodd teithwyr gyngor gan yr heddlu i osgoi’r ardal oherwydd y ciwiau.
As a result of proactive police action, 3 stolen caravans and vehicles have been intercepted by Morrisons on North Rd in Caernarfon.
One man has been arrested and the road will remain blocked for some time. Thank you for your patience whilst we deal with this incident pic.twitter.com/Rd2GtHGAPA
— North Wales Police #KeepWalesSafe ? (@NWPolice) May 14, 2021
Dywedodd yr heddlu fod un dyn wedi cael ei arestio.
Fe ddiolchodd yr heddlu i bobl am eu hamynedd wrth iddyn nhw ddelio â’r digwyddiad.
Mae’r ffordd bellach ar agor a’r carafanau a’r cerbydau wedi cael eu symud.