Mae Llywodraeth Cymru yn “oedi” cynlluniau i ganiatáu i ddigwyddiadau bach ailddechrau yn sgil amrywiolyn newydd o’r India.

Daw hyn wrth i Gymru symud i Lefel Rhybudd 2 ddydd Llun (Mai 17), gyda bwytai a thafarndai yn cael gwasanaethu pobol tu mewn eto.

Yn ogystal, bydd lleoliadau adloniant dan do yn ailagor, a bydd mwy o bobol yn cael mynychu gweithgareddau wedi’u trefnu dan do ac yn ar awyr agored.

Ond yn ôl Mark Drakeford, bydden nhw’n “oedi” eu cynlluniau i lacio’r rheolau ynghylch caniatáu i bobol gyfarfod hefyd.

‘Pryder’

“Roedden ni wedi meddwl symud ymlaen gydag ailddechrau digwyddiadau llai, ond fe wnawn ni oedi hynny am nawr,” meddai Mark Drakeford wrth Sky News.

“Roedden ni’n meddwl llacio’r rheolau mewn ffordd a fyddai’n caniatáu i bobol gyfarfod, ddim just o fewn eu haelwyd estynedig ond tu hwnt i hynny, fe wnawn ni oedi hynny am nawr.

“Os fydd y cyngor ynghylch amrywiolyn India yn dweud ei bod hi’n sâff symud ymlaen, ni fydd rhaid i ni aros nes diwedd y cyfnod tair wythnos cyn gwneud y pethau hyn, ond mae amrywiolyn India yn achosi pryder.

“Dydyn ni ddim yn gwybod digon ynghylch a ydy e’n lledaenu’n gynt nag amrywiolyn Kent, dydyn ni ddim yn gwybod digon ynghylch a yw’r rhaglen frechu mor effeithiol yn delio gydag e â gydag amrywiolion eraill sydd gennym ni yng Nghymru, a nes y byddwn ni ychydig cliriach ynghylch hynny dw i’n meddwl ei bod hi’n gallach cymryd agwedd ragofalus.”

Cymru yn symud i lefel rhybudd dau

Teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun hefyd, ond Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori teithio tramor hanfodol yn unig