Mae’r Blaid Lafur wedi gwahardd ymgeisydd arweinyddiaeth Unite am awgrymu fod yr Ysgrifennydd Cartref yn “ffiaidd” ac y dylid ei alltudio.

Ymddiheurodd ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol Unite Howard Beckett – sy’n sefyll am arweinyddiaeth yr undeb – am y trydar.

Gwnaeth Howard Beckett y sylwadau yn dilyn protestiadau yn Glasgow mewn ymateb i Lu’r Ffiniau yn arestio dau ddyn o India.

Rhyddhawyd y dynion gan Heddlu’r Alban ar ôl i brotestwyr amgylchynu’r fan oedd yn eu trosglwyddo.

Dywedodd Howard Beckett yn y trydar: “Dylid alltudio Priti Patel, nid ffoaduriaid. Caiff hi fynd ynghyd ag unrhyw un arall sy’n cefnogi hiliaeth sefydliadol.

Ffoaduriaid

Cafodd y neges ei dileu.

Dywedodd yn ddiweddarach: “Neges Priti Patel ar Eid al Fitr yw alltudio ffoaduriaid Mwslimaidd. Y rhai sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi rhag rhyfel.

“Rydym yn gweld hiliaeth sefydliadol echrydus dro ar ôl tro gan bileri tybiedig yr elît Prydeinig.

“Ni ddylai fod lle i hiliaeth ein cymdeithas, o gwbl.

“Mae’n ddrwg iawn gen i am fy nhrydar cynharach. Roeddwn i’n ddig o weld Ffoaduriaid Mwslimaidd yn cael eu halltudio ar fore Eid al Fitr.”

‘Ymddiheuro’n ddiamod’

Ychwanegodd Howard Beckett nad oedd ei neges “wedi’i fwriadu i fod yn llythrennol” a bod “y geiriad yn anghywir” ac yn “sarhaus”.

“Rwy’n ymddiheuro’n ddiamod i Priti Patel. Ni ddylid alltudio unrhyw un.”

Deellir nad yw’r un o’r dynion gafodd eu harestio yn Glasgow yn Fwslimiaid.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Llafur, Chris Bryant: “Mae hyn yn afiach. Ni ddylai hyn chwarae unrhyw ran yn y Blaid Llafur – nac yng ngwleidyddiaeth Prydain.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur bod y blaid “yn cymryd yr honiadau hyn o ddifrif” ac yn addo gweithredu’n briodol.