Mae E-chwaraeon, sef cystadleuaeth defnyddio gêmau fideo, yn cael ei gynnig fel cwrs mewn coleg yng Nghymru.
Ran amlaf, mae E-chwaraeon yn cael ei chwarae ar ffurf cystadlaethau gêmau fideo rhwng chwaraewyr proffesiynol, yn unigol neu mewn tîmau.
Yn ôl Coleg Cambria, sydd a safleoedd yn Llaneurgain, Wrecsam, Glannau Dyfrdwy a Llysfasi, bydd y cwrs newydd yn helpu i ateb y galw am weithwyr yn y sector E-chwaraeon.
Gall myfyrwyr astudio â Diploma Sylfaen Cenedlaethol arloesol Lefel 3 BTEC mewn E-chwaraeon.
Bydd y cymhwyster dwy flynedd yn cael ei gyflwyno ar safle Glannau Dyfrdwy Coleg Cambria o fis Medi ac mae wedi ei lunio gan Gymdeithas E-chwaraeon Prydain a’r corff dyfarnu, Pearson.
Mae’r modiwlau’n cynnwys Dylunio Gêmau, Cymwysiadau Busnes E-chwaraeon yn y Cyfryngau Cymdeithasol, Hyfforddi E-chwaraeon, Darlledu Ffrydio’n Fyw, Cynhyrchu Brand E-chwaraeon, a Chynhyrchu Fideos.
Mae’r cwrs wedi denu nawdd gan HyperX, sy’n wneuthurwr ac yn fanwerthwr rhyngwladol blaenllaw o ddyfeisiau E-chwaraeon.
‘Cyrsiau perthnasol’
Dywedodd Cyfarwyddwr Cwricwlwm Cambria, Suzanne Barnes, fod eu cyrsiau academaidd yn esblygu’n barhaus i ddiwallu anghenion diwydiant a datblygiadau mewn technoleg.
“Mae E-chwaraeon yn sector sydd newydd ei sefydlu ac sy’n cynyddu’n gyflym, gan gyflwyno cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth yn lleol ac yn fyd-eang,” meddai.
“Mae felly’n hanfodol ein bod ni yng Ngholeg Cambria yn darparu cyrsiau sy’n berthnasol i’r economi newydd i’n dysgwyr.
“Mae’r cymhwyster yn cynnwys ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy cyfoes y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt.
“Bydd hefyd yn galluogi ein dysgwyr i fanteisio ar y llu o lwybrau gyrfa a llwybrau dilyniant sy’n eu disgwyl – naill ai’n uniongyrchol i fyd gwaith neu drwy astudio ymhellach.”
‘Creadigol’
Ychwanegodd Suzanne Barnes: “Mae E-chwaraeon yn cynnig cyfle unigryw i astudio sector sy’n pontio nifer o feysydd pwnc amrywiol, fel chwaraeon, marchnata, menter, a’r cyfryngau creadigol.
“Mae’n rhoi cyfle i alinio sgiliau cymdeithasol, corfforol, meddyliol ac ariannol â chymhwyster cyffrous a newydd a fydd yn dyfnhau ac yn ehangu dysgu.”
“Mae’r sgiliau sy’n cael eu cyflwyno mewn modiwlau fel y rhain yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yng ngweithleoedd newidiol a hylifol yr economi newydd.
“Rydyn ni felly’n gyffrous cael bod ar y blaen yma yng Ngogledd Cymru.”
Swyddi
Yn ôl Cymdeithas E-chwaraeon Prydain, mae’r diwydiant wedi creu miloedd o swyddi newydd ledled y byd – ac mae’r nifer hwn yn parhau i gynyddu.
Mae nifer y swyddi E-chwaraeon yn y Deyrnas Unedig sy’n cael eu postio ar wefan swyddi Hitmarker wedi cynyddu 63% flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ac yn ôl Newzoo, sy’n gwmni blaenllaw mewn dadansoddi’r farchnad E-chwaraeon, y bydd refeniw’r diwydiant E-chwaraeon byd-eang yn cyrraedd $1.084 biliwn yn 2021.