Mae Mark Drakeford wedi dweud ei “bod hi’n well i bobol beidio mynd dramor o gwbl eleni”, os nad yw’n “ymarferol” i barhau â’r rheolau.

Mewn cyfweliad gyda BBC Breakfast y bore yma (Mai 14), fe wnaeth y Prif Weinidog gynghori pobol “i fynd ar wyliau” yng Nghymru, hyd yn oed pan fydd teithio rhyngwladol yn ailddechrau.

Bydd Cymru yn symud i Lefel Rhybudd 2 ddydd Llun (Mai 17), a bydd teithio dramor yn cael ei ganiatáu o’r Deyrnas Unedig.

Er hynny, mae’n “well osgoi teithio dramor”, meddai Mark Drakeford.

“Cyfleoedd arbennig” yng Nghymru

“Mewn ystyr cwbl ymarferol, unwaith fydd meysydd awyr ar agor yn Lloegr, ni fyddai’n bosib gorfodi rheol fyddai’n dweud wrth bobol Cymru i beidio â theithio,” dywedodd Mark Drakeford yn ystod y cyfweliad.

“Rydyn ni’n gwybod fod y rhan fwyaf o bobol sy’n teithio o Gymru yn gwneud hynny o Fryste, Manceinion, neu Lundain, ac unwaith fydd y meysydd awyr hynny ar agor, bydd pobol Cymru [yna] yn gallu teithio [dramor].

“Felly, nid oes pwynt creu cyfarwyddyd na all gael ei weithredu.

“Ond mae’r cyngor yng Nghymru yn gwbl glir; mae gennym ni gyfleoedd arbennig i fynd ar wyliau yng Nghymru, a hon yw’r flwyddyn i fanteisio arnyn nhw.”

Teithio rhyngwladol

Daw’r cyngor yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru eu bod nhw’n cyflwyno system deithio fel un Lloegr a’r Alban o ddydd Llun ymlaen.

Er y gall pobol yng Nghymru ymweld ag ambell leoliad dramor heb orfod hunanynysu ar y ffordd yn ôl, mae’r Llywodraeth yn parhau i gynghori pobol i deithio dramor am resymau hanfodol yn unig.

Bydd system goleuadau traffig yn cael ei chyflwyno, a fydd yn cyd-fynd â’r system a fydd yn cael ei defnyddio yn Lloegr a’r Alban – bydd gwledydd yn cael eu dosbarthu i gategorïau gwyrdd, oren a choch.

Mae hyn yn golygu y gall pobl sy’n byw yng Nghymru deithio i nifer bach o gyrchfannau tramor heb orfod bod mewn cwarantin ar ôl dychwelyd. Mae cwarantin yn orfodol o hyd i’r rhai sy’n cyrraedd o wledydd nad ydynt ar y rhestr werdd.

O ddydd Llun 24 Mai ymlaen, bydd statws brechiad ar gael ar bapur i bobl yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o’r brechiad ac sydd angen teithio ar frys i wlad sy’n gofyn am brawf o’u brechiadau Covid.

Fore heddiw, dywedodd Mark Drakeford wrth Sky News eu bod nhw’n “oedi” cynlluniau i ganiatáu i ddigwyddiadau bach ail-ddechrau yn sgil pryderon am amrywiolyn newydd o India.

Cymru yn symud i lefel rhybudd dau

Teithio rhyngwladol yn ailddechrau o ddydd Llun hefyd, ond Llywodraeth Cymru yn parhau i gynghori teithio tramor hanfodol yn unig